Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Adolygu cynlluniau ariannol

New money

26 Medi 2022

New money
Mae'r Cabinet wedi rhybuddio y bydd chwyddiant sy'n parhau i godi a chostau ynni cynyddol yn cael effaith mawr ar gynllunio ariannol Cyngor Sir Powys ar gyfer y flwyddyn hon a'r blynyddoedd i ddod.

Cymeradwyodd y Cyngor Sir Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ym mis Mawrth gan fanylu ar ei gynlluniau gwariant tan 2027 ond mae digwyddiadau diweddar yn y byd wedi golygu y bydd rhaid ail-asesu cynlluniau a'u diwygio ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod y Cabinet ar gyfer Cyllid; "Mae'r byd wedi newid ers mabwysiadu ein cynllun ariannol tymor canolig diwethaf ac mae'r newidiadau hyn wedi cael effaith sylweddol ar yr hinsawdd economaidd gartref a thramor.

"Cafodd ymosodiad Rwsia ar Wcráin sgil effeithiau mawr ar yr economi fyd-eang, gyda phrisiau nwy ac olew wedi cyrraedd dros 200 a 50 y cant, uwchben eu lefelau diwedd 2021.  Ers hynny mae'r prisiau wedi gostwng ond yn para i fod tipyn yn uwch na'r cyfartaledd hanesyddol.

"Mae'r pwysau ar brisiau ynni wedi cael effaith uniongyrchol ar economi'r DU gyda chwyddiant yn codi i dros 10 y cant a'r rhagolygon yn awgrymu y bydd yn aros ar lefelau uwch i'r flwyddyn nesaf.  Mae cyfraddau llog wedi cynyddu wrth i Fanc Lloegr geisio mynd i'r afael â chwyddiant cynyddol ac mae ansicrwydd sylweddol yn parhau.

"Ni ellir gorbwysleisio effaith y ddau beth hyn gyda'i gilydd ar gyllideb y Cyngor Sir a'i allu i ddarparu gwasanaethau lleol.  Mae'n rhaid i ni adolygu ein cynlluniau ariannol tymor canolig ac ystyried costau cynyddol yn y flwyddyn ariannol hon ac ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.

"Bydd yn rhaid i ni roi newidiadau ar waith i reoli'r pwysau ariannol hyn cyn gynted ag y gallwn a bydd y cabinet yn gosod y cyfeiriad ac yn datblygu amcanion dros y misoedd nesaf a fydd yn llunio'r cyngor dros y pum mlynedd nesaf.

"Pan fydd y cynlluniau hyn wedi'u cwblhau bydd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cael ei diweddaru.  Bydd y Strategaeth yn manylu ar sut y bydd y cyngor yn darparu gwasanaethau i'n preswylwyr gyda'r adnoddau sydd ar gael.