Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith dichonoldeb yn dechrau ar sefydlu addysg cyfrwng Cymraeg yng nghanol Powys

Image of a primary school classroom

30 Medi 2022

Image of a primary school classroom
Mae'r cyngor sir wedi dweud bod gwaith i ystyried y posibilrwydd o sefydlu addysg cyfrwng Cymraeg mewn lleoliad newydd yng nghanol Powys wedi dechrau.

Mae Cyngor Sir Powys yn ymchwilio i ddichonoldeb sefydlu addysg cyfrwng Cymraeg yn adeilad presennol Ysgol G.G. Llanfihangel Rhydieithon ym mhentref Dolau ger Llandrindod.

Elfen allweddol o'r gwaith yw asesu'r galw sy'n bodoli am addysg Gymraeg ar draws Dwyrain Sir Faesyfed.

Er mwyn helpu gyda'r asesiad, mae'r cyngor wedi llunio holiadur i'w llenwi gan rieni disgyblion oed cynradd a chyn-ysgol a'r rheiny sy'n ystyried dechrau teulu yn ardaloedd Llandrindod, Tref-y-Clawdd a Llanandras.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mewn cyfarfod Craffu cyn yr etholiad, galwais am ddadansoddiad o'r dichonoldeb o ddefnyddio safle Dolau fel ysgol cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer Dwyrain Sir Faesyfed.

"Yn dilyn yr etholiad, mae'r Cabinet newydd wedi oedi gweithredu'r cynnig i gau Ysgol G.G. Llanfihangel Rhydieithon am 12 mis hyd at 31 Awst 2023 er mwyn sicrhau bod y cynnig hwn yn cael ei ystyried yn drylwyr ac fel nad yw'r cyfle i ddatblygu'r iaith yn cael ei golli.

"Fel rhan o'r gwaith hwn, rydym wedi cynhyrchu'r holiadur hwn i asesu'r galw a allai fod yn bodoli am addysg cyfrwng Cymraeg yn Nwyrain Sir Faesyfed ac i ystyried a fyddai'r ddarpariaeth hon yn ddichonol ai peidio yn Nolau.

"Hoffwn annog rhieni disgyblion oed cynradd a chyn-ysgol sy'n byw yn Llandrindod, Tref-y-clawdd a Llanandras i lenwi'r holiadur hwn er mwyn helpu'r cyngor i gael y darlun mwyaf manwl o'r potensial ar gyfer ysgol cyfrwng Cymraeg (dwyieithog i bawb) yn yr ardal."

I lenwi'r holiadur ewch i www.dweudeichdweudpowys.cymru/dolau-wm

Bydd rhieni'n gallu cyflwyno eu hymatebion tan ddydd Iau, 27 Hydref.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr holiadur drwy anfon e-bost i transforming.education@powys.gov.uk