Canolfan i Deuluoedd yn Y Trallwng i agor mis nesaf
30 Medi 2022
Bydd Canolfan Integredig Y Trallwng i Deuluoedd sy'n agor ar 10 Hydref 2002 yn "siop un stop" i gyflwyno gwasanaethau a chefnogaeth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Bydd y ganolfan yn darparu gweithgareddau megis grwpiau rhieni a phlant bach, tylino babanod, gwybodaeth a chyngor, rhaglenni Hyfforddiant Rhianta'r Blynyddoedd Rhyfeddol, cyngor iechyd, cefnogaeth a chwnsela i deuluoedd.
Cafodd adnewyddu'r adeilad a leolir yng nghanol y dalgylch Dechrau'n Deg ei ariannu trwy nawdd Cyfalaf Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cyng. Susan McNicholas, aelod o Gabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol; "Bydd y ganolfan newydd yn helpu plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i gael mynediad at gefnogaeth oddi wrth wasanaethau ymyrraeth a chymorth cynnar sydd oll ar yr un safle. Bydd y gwasanaethau hyn yn cydweithio i ddiwallu anghenion y teulu.
"Yng nghanol y gymuned, mae'r safle yn gyfle i gael gwasanaethau mewn un lle. Fe fydd yn darparu gofal plant ynghyd â mannau swyddfa a chymunedol."
Bydd y tîm Dechrau'n Deg sy'n cynnwys Ymwelwyr Iechyd a gweithwyr Iaith a Lleferydd proffesiynol yn symud o Swyddfeydd Maesydre yn Y Trallwng i'r safle. Bydd Gwasanaethau Ieuenctid a Thîm Cymorth Cynnar i Blant Cyngor Sir Powys yn ymuno â hwy. Bydd staff Gwasanaethau Oedolion y cyngor, ynghyd â chydweithwyr o asiantaethau megis Canolfan Deulu Sir Drefaldwyn, yn rhannu'r lle swyddfa hefyd o fewn yr adeilad.
Mae darpariaeth Cyfnod Sylfaen a gofal plant Dechrau'n Deg ar gael nawr i deuluoedd ar y safle.
Gall teuluoedd lleol ganfod mwy ar y dudalen Facebook @Welshpool0-5