Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Bydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi y Drenewydd ar gau am dri diwrnod o ddydd Llun 17 Hydref

Image showing a recycling icon

4 Hydref 2022

Image showing a recycling icon
Bydd gwaith hanfodol i uwchraddio system ddraenio'r safleoedd yn cael ei wneud o ddydd Llun 17 Hydref tan ddydd Gwener 21 Hydref, gyda'r ganolfan yn ailagor ddydd Sadwrn 22 Hydref. 

Er y bydd y gwaith yn cymryd pum diwrnod i'w gwblhau, mae'r gwaith wedi cael ei drefnu fel bod y ganolfan ar gau i'r cyhoedd am dri diwrnod ychwanegol yn unig, oherwydd mae'r ganolfan ar gau ar ddydd Iau a Gwener bob wythnos fel arfer. 

Pe bai angen, gellir mynd ag eitemau i'w hailgylchu yn un o'n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff o Gartrefi eraill yn y sir.  Edrychwch ar-lein ar gyfer eu diwrnodau a'u hamseroedd agor: Canolfannau Ailgylchu

Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra a diolch i bawb am eu dealltwriaeth.