Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyfleusterau cyd-weithio a chyfarfod ar gael yn Nhref-y-clawdd

Image of Knighton and District Community Centre and Library

5 Hydref 2022

Image of Knighton and District Community Centre and Library
Mae Canolfan Gymunedol a Llyfrgell Tref-y-clawdd a'r Cylch yn falch o gynnig y lle perffaith i gyd-weithio ar gyfer unrhyw un sy'n chwilio am ofod tawel, di-gynnwrf i weithio'n lleol gydag eraill sy'n dymuno gweithio yn yr ffordd.

Mae'r ystafell gyd-weithio sydd a phedair desg yn rhan o brosiect peilot canolfannau cymunedol digidol, wedi'i ariannu gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU ac fe'i rheolir gan y Gwasanaeth Llyfrgell, gan weithio mewn partneriaeth â Phwyllgor Rheoli Canolfannau Cymunedol.

Mae cyd-weithio yn y Ganolfan wedi'i gwella gan ystod o gyfleusterau y gellir eu llogi, fel mannau cyfweld, ystafelloedd cyfarfod, cynadledda a hyfforddi, gan gynnwys pod digidol ar gyfer 1-1 neu gyfarfodydd rhithwir i bobl unigol, man i wneud paned o goffi ac ardal gradd hyfryd. 

Mae offer cyfarfod rhithwir a hybrid cludadwy yn golygu y gall cyfarfodydd ym mhob ystafell fod wyneb yn wyneb, yn rhithiol, neu'r ddau. 

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar faterion Powys mwy llewyrchus: "Rwy'n falch iawn o weld y ganolfan gymunedol a'r llyfrgell yn cydweithio i ddarparu'r cyfleusterau hyn ar gyfer trigolion Tref-y-clawdd a'r cyffiniau.

Mae'n wych eu bod yn cefnogi'r economi leol drwy ddarparu cyfleusterau cyd-weithio, cyfarfod, a chynadledda, gan atal allyriadau CO₂ trwy deithio diangen."

Dywedodd Michael Harding, Cadeirydd Pwyllgor Rheoli Cymunedol Tref-y-clawdd a'r Cylch: "Mae'r cyfleusterau cyd-weithio newydd yn ategu'r holl weithgareddau sy'n digwydd yn y Comm, sy'n ganolbwynt prysur, ffyniannus gyda rhywbeth i'w gynnig i bawb yn yr ardal.

"Rydyn ni'n gweithio'n galed iawn er mwyn rhoi croeso cynnes i unrhyw un sydd ei angen, ac mae'n galonogol ehangu'r arlwy i gynnwys cyfarfodydd digidol a lleoedd gwaith modern. Bydd y rhain yn ategu'r caffis bore Mawrth rheolaidd a chinio dydd Iau, sy'n golygu bod pobl yn gallu cael diodydd poeth a bwyd ar y safle hefyd."

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle, cysylltwch â Llyfrgell Tref-y-clawdd ar 01547 528778 neu e-bostiwch knighton.library@powys.gov.uk neu cysylltwch â Chanolfan Gymunedol Tref-y-clawdd ar 01547 428088 neu anfonwch e-bost at knightoncomm@gmail.com