£400 o ddirwy am adael sbwriel tu allan i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff o'r Cartref

6 Hydref 2022

Ar ôl cyrraedd y Ganolfan yn Ne Powys a sylweddoli ei fod wedi cau am y diwrnod, yn lle dod nôl yn ystod oriau agor arferol, penderfynodd y troseddwr adael yr holl sbwriel o gefn y fan tu allan i gatiau clo y safle. Mae cael gwared ar sbwriel mewn lle cyhoeddus fel hyn yn cael ei ystyried yn dipio anghyfreithlon. Nid yn unig y mae'n berygl amgylcheddol i ddefnyddwyr y ffyrdd, aelodau eraill y cyhoedd a'r ardal leol, mae hefyd yn hyll dros ben.
Diolch byth, roedd y system CCTV wrth fynedfa'r Ganolfan Ailgylchu wedi dal y troseddwr wrthi a chafodd ddirwy o £400 am hynny.
"Mae pob Canolfan Ailgylchu a Gwastraff ar agor bum diwrnod yr wythnos, ac mae manylion y dyddiadau a'r amserau agor i'w gweld wrth y mynedfeydd ac ar-lein," esboniodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.
"'Does dim esgus dros beidio gwybod pryd mae'r canolfannau ar agor a hyd yn oed llai o esgus dros ddefnyddio diffyg trefn fel rheswm dros dipio sbwriel. Nid yw'r cyfleusterau hyn yn fan gadael 24/7 ac mae rheolau trwyddedu llym yn pennu'r oriau agor. Ni allwch adael pethau ar y ffordd tu allan pan mae'r canolfannau ar gau.
"Er i hyn ddigwydd ar garreg y drws, mae'r tîm gorfodaeth yn dal i orfod ymchwilio i achosion o dipio anghyfreithlon fel hyn a chlirio'r sbwriel yn gywir - ar gost o amser ac adnoddau i'r Cyngor.
"Ni fydd y cyngor yn goddef unrhyw achosion o dipio anghyfreithlon a bydd ein tîm gorfodaeth yn ymchwilio i unrhyw achosion yn drwyadl ac yn dirwyo'r rhai sy'n gyfrifol. Mae Powys yn sir enfawr a phrydferth ac ni wnawn adael i ymddygiad anghyfreithlon rhai pobl anghyfrifol ddifetha'r amgylchedd leol."
Gallwch roi gwybod am achosion o dipio anghyfreithlon ar-lein ar wefan y cyngor: Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon