Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwella mynediad i faes parcio Stryd Aberriw, Y Trallwng

Image of the existing kissing gate in Berriew carpark

6 Hydref 2022

Image of the existing kissing gate in Berriew carpark
Bydd gwaith yn dechrau'n fuan i dynnu hen gât mochyn a gwella mynediad rhwng maes parcio Stryd Aberriw a Lôn Oldford yn Y Trallwng.

Bydd y mynediad newydd a gwell yn lletach ac yn hwylus i bawb a bydd cerddwyr, defnyddwyr anabl, a rhieni gyda chadeiriau gwthio yn gallu defnyddio'r llwybrau presennol yn llwyr.  Bydd rhwystrau croesgam yn cael eu gosod i gyfyngu ar fynediad i gerbydau ac i atal plant rhag rhedeg i'r maes parcio.

Bydd y gwelliant hwn i'r fynedfa a'r llwybr yn gwella'r mynediad i'r hen ysgol sydd wedi'i hadnewyddu'n ddiweddar yn ganolfan 'siop un stop' sy'n darparu gwasanaethau a chymorth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Mae Canolfan Integredig i Deuluoedd Y Trallwng yn trefnu gweithgareddau i'r gymuned, megis grwpiau rhieni a phlant bach, tylino i fabanod, clybiau ieuenctid, cyngor ar iechyd, cymorth a chwnsela i deuluoedd - a bydd y cyfan yn fwy hwylus pan fydd yr hen gât mochyn lletchwith wedi mynd a chael rhywbeth mwy addas yn ei le.

"Mae'r gwaith cynnal a chadw ar ein safleoedd yn dasg barhaol a lle'n bosibl, mae'n braf gweld ein bod yn gallu gwella ein meysydd parcio a'r hawliau tramwy cyhoeddus sy'n golygu y bydd pawb yn gallu cyrraedd cyfleusterau a symud o gwmpas heb rwystrau," esboniodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Mewn sir o faint Powys, mae sicrhau bod ein llwybrau,  gatiau a'r mannau cyhoeddus yn hygyrch i bawb yn dipyn o her, ond mae'n bwysig cael y pethau hyn yn iawn mewn mannau sydd ag adnodd cymunedol gwych o fewn cyrraedd.

Ychwanegodd y cynghorydd lleol a'r Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel, y Cynghorydd Richard Church: "Bydd tynnu'r hen gât mochyn rhwng maes parcio Stryd Aberriw a Lôn Oldford yn sicrhau y bydd y rhai sy'n defnyddio'r Ganolfan newydd Integredig i Deuluoedd Y Trallwng yn gallu cyrraedd yno'n hawdd hyd yn oed gyda chadair gwthio, sgŵter neu feic plant.  Fel rhywun sy'n byw yn yr ardal fy hun, rwy'n gwybod y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r ardal leol."