Toglo gwelededd dewislen symudol

Busnes Wipak yn y Trallwng, sef cwmni sy'n ehangu, yw Busnes y Flwyddyn Powys

Image of winners  from 2022 Powys Business Awards

10 Hydref 2022

Image of winners  from 2022 Powys Business Awards
Mae cwmni o'r Trallwng sydd wedi buddsoddi £5 miliwn mewn peiriannau arloesol i greu 50 o swyddi newydd dros y blynyddoedd nesaf wedi cael ei ddyfarnu'n Fusnes y Flwyddyn Powys.

Dyfarnwyd Wipak UK Ltd, sy'n rhan o Barc Menter Buttington Cross y dref, yn enillwyr y wobr gyffredinol a noddwyd gan Gyngor Sir Powys, yng Ngwobrau Busnes Powys 2022 a gynhaliwyd yn Dering Lines, Aberhonddu nos Wener.

Hefyd, llwyddodd y cwmni, sy'n gwneud haenau pecynnu rhwystrol soffistigedig ar gyfer cadw a diogelu cynhyrchion bwyd,i ennill Gwobr Datblygu'r Bobl, a noddir gan Grŵp Colegau NPTC.

Yn ôl Wipak UK Ltd, sydd â throsiant o bron i £30 miliwn a 107 o weithwyr, mae ei weithlu'n chwarae rhan allweddol yn ei nod o ddod yn gyflenwr pecynnu hyblyg mwyaf cynaliadwy'r byd gan lwyddo i ddod yn garbon niwtral erbyn 2025.

Yn dilyn rhaglen hyfforddi gynhwysfawr i weithredwyr y peiriannau newydd, datblygwyd sawl cynnyrch newydd cyffrous, gan gynnwys haen becynnu alwminiwm newydd ag ôl troed carbon isel, a ddyfeisiwyd i lapio menyn ar gyfer marchnad newydd.

Gan addo cefnogi gweithwyr i ddatgloi eu llawn botensial, a blaenoriaethu eu diogelwch a'u lles ar yr un pryd, cyflawnodd y cwmni Achrediad Arian Buddsoddwyr mewn Pobl yn 2019 ac mae'n ymgneisio am Achrediad Aur yn ddiweddarach eleni.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Wipak UK Ltd, Andrew Newbold: "Waw, dyma anrhydedd anhygoel. Yr hyn rwy'n ei hoffi am hyn yw bod a wnelo'r wobr â'n holl weithwyr, ac nid ond un person neu un cynnyrch yn unig.

"Rydyn ni wedi ei ennill oherwydd yr hyn maen nhw wedi'i gyflawni ar y cyd. Maen nhw wedi cofleidio'r cynllun datblygu ac yn grŵp anhygoel o bobl."

Dywedodd y beirniaid: "Mae gan Wipak arweinydd cryf, mae wedi buddsoddi mewn pobl leol a sicrhau eu bod yn ganolog i'r cwmni. Mae wedi sefydlu eu hunain fel arweinwyr yn y farchnad drwy barhau i fuddsoddi yn eu gallu i weithgynhyrchu ac i ddatblygu cynhyrchion newydd.

"Maen nhw'n gwneud cyfraniad amgylcheddol cadarnhaol trwy gymryd camau pendant a herio dulliau traddodiadol.  Rydyn ni'n credu y byddan nhw'n llysgenhadon ysbrydoledig a theilwng ar flaen y gad ym Mhowys."

Caiff Gwobrau Busnes Powys eu trefnu gan Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru (MWMG) gyda chymorth noddwyr, i arddangos yr ystod amrywiol o fentrau llwyddiannus yn y sir.

Ychwanegodd Richard Glover-Davies, un sydd wedi ennill sawl tro yn y gwobrau, ddwy wobr arall at ei gasgliad. Enillodd y Wobr Entrepreneuriaeth, a noddwyd gan Lywodraeth Cymru, gyda'i gwmnïau gloversure a Montgomeryshire Homes Ltd, Y Trallwng.

Yna fe ychwanegodd Montgomeryshire Homes y Wobr Busnesau Bach at ei gasgliad, sef gwobr dan nawdd WR Partners.

Roedd mwy o lwyddiant i'r Trallwng wrth i Morland UK ennill y Dyfarniad Twf, a noddwyd gan The County Times, ac wrth i Nomadic Washrooms, o Ffordun, ennill y Wobr Busnes Newydd, a noddir gan EvaBuild.

Fe wnaeth busnesau yng Nghrughywel hefyd gasglu dwy wobr. Enillodd PM Training & Assessing Ltd Wobr Micro Fusnes, a noddir gan WPG ac enillodd The Cellar Drinks Company Wobr Twf Busnesau Bach, a noddwyd gan EDF Renewables.

Dyfarnwyd un o lwyddiannau mwyaf y noson i The Game Change Project CIC, sy'n gweithio gyda phobl ifanc wedi'u hymddieithrio o ganolfan ar fferm yn Aberhafesb, ger Y Drenewydd. Enillodd y cwmni Wobr Menter Gymdeithasol / Elusen, a noddwyd gan Myrick Training Services.

Derbyniodd cyflogwr mwyaf y Drenewydd, Nidec - Control Techniques, y Wobr Technoleg ac Arloesi, a noddir gan ForrestBrown, am ddyfeisio gyriant micro AC sy'n cynnwys ap chwyldroadol sy'n cael ei weithredu o ffôn clyfar.

Aeth Gwobr Arbennig y Beirniaid, a noddwyd eleni gan CellPath, i gydnabod llwyddiant rhagorol gan fusnes neu unigolyn nad oedd yn enillydd categori, i Radnor Hills, Tref-y-clawdd.

Yr unigolion eraill a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd: Gwobr Busnes Newydd: Carafanau a Gwersylla Bryndu, Aberhonddu a Mesh Telematics Limited, Machynlleth. Gwobr Entrepreneuriaeth: Trudy Davies, Woosnam and Davies News, Barbwyr Llani a Siop Pobty Talerddig, Llanidloes ac Adam Watkin, Trax JH, Tyre Protector a Gresolvent, Y Drenewydd. Gwobr Busnes Micro (llai na 10 o weithwyr): Celtic Company, y Trallwng ac SP Filling Systems Ltd, Llandrindod. Gwobr Twf: Dawson Shanahan, y Trallwng; Makefast Ltd, Y Drenewydd a Radnor Hills, Tref-y-clawdd. Gwobr Busnesau Bach (o dan 30 o weithwyr): CMD Ltd, Y Drenewydd a Severn Transport Services Ltd, Y Trallwng. Menter Gymdeithasol/ Gwobr Elusennau: Calan DVS, Aberhonddu ac Agored Y Drenewydd, Y Drenewydd. Gwobr Twf Busnesau Bach: Severn Transport Services Ltd, Y Trallwng a Chartrefi Sir Drefaldwyn, y Trallwng. Gwobr Technoleg ac Arloesi: CMD Ltd, Y Drenewydd a Dawson Shanahan, Y Trallwng. Gwobr Datblygu Pobl: EOM Electrical Contractors Ltd, Y Drenewydd a Grŵp SWG, Y Trallwng.