Arolwg addysg dalgylch Crughywel yn dechrau
13 Hydref 2022
Mae Cyngor Sir Powys yn cynnal arolwg ardal ar addysg yn nalgylch Crughywel i ddynodi sut y bydd addysg yn cael ei gyflwyno yn y dalgylch yn y dyfodol.
I helpu gyda'r arolwg, mae'r cyngor wedi llunio holiadur cychwynnol ac eisiau i rieni, staff ysgolion, penaethiaid a llywodraethwyr i gyfrannu eu syniadau.
Dywedodd y Cyng. Pete Roberts, Aelod o'r Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Yn gynharach eleni, cytunodd y Cabinet i oedi'r cynnig arfaethedig i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr gan 12 mis tan fis Awst 2023 i ganiatáu arolwg ardal llawn o ddalgylch Crughywel er mwyn dynodi sut y gellir cyflwyno addysg yn y dalgylch yn y dyfodol.
"Fel rhan o'r arolwg, rydym wedi llunio'r holiadur hwn a fydd yn galluogi'r cyngor i ystyried syniadau yn seiliedig ar y gymuned am sut i wella darpariaeth addysgol yn y dalgylch yn y dyfodol ynghyd â'r cynigion hynny a awgrymir gan swyddogion cyn ymgysylltu ar y ffyrdd ymlaen sy'n cael eu ffafrio.
"Fe fyddwn yn annog pawb sydd â diddordeb mewn addysg yn nalgylch Crughywel i lenwi'r holiadur hwn.
"Bydd y cyngor wedi hynny'n llunio adroddiad sy'n amlinellu'r ymatebion i'r holiadur a bydd yn datblygu papur ar y ffordd ymlaen sy'n cael ei ffafrio ar gyfer dalgylch Crughywel, a fydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet yn gynnar yn 2023."
I lenwi'r holiadur, edrychwch ar https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/crickhowell-area-review
Rhaid cyflwyno ymatebion erbyn dydd Iau, 10 Tachwedd.
Mae gwybodaeth bellach am yr holiadur ar gael trwy anfon e-bost at transforming.education@powys.gov.uk