Rydym yn awyddus i sicrhau fod y cyfnod pontio'n mynd mor llyfn â phosibl i bawb. Fel tenant, mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o'r newidiadau o'ch safbwynt chi.
Gwirio'r enw(au) ar eich llythyr i sicrhau ei bod yn gywir ar gyfer eich Contract Meddiannaeth newydd. Os nad ydynt yn gywir, dylech gysylltu â ni ar 01597 827464 neu drwy ebostio: housing@powys.gov.uk
Bydd eich cytundeb tenantiaeth yn newid i Gontract Meddiannaeth ar 1af Rhagfyr 2022.
Mae gan Gyngor Sir Powys chwe mis o 1af Rhagfyr 2022, i anfon eich Contract Meddiannaeth newydd atoch.
Byddwn yn postio eich Contract Meddiannaeth atoch.
Ar ôl derbyn eich Contract Meddiannaeth, bydd angen ichi ei ddarllen, a sicrhau eich bod yn gyfarwydd gyda'ch hawliau a'ch cyfrifoldebau.
Rhaid i bob Deilydd Contract lenwi ac arwyddo'r ffurflen "Derbyn Contract", a fydd wedi'i gynnwys gyda'ch Contract.
Mae'n rhaid ichi ddychwelyd y ffurflen ar ôl ei llofnodi at Gyngor Sir Powys yn yr amlen a ddarperir o fewn 14 diwrnod o dderbyn y Contract.
Bydd tenantiaid newydd ar ôl 1af Rhagfyr 2022, yn llofnodi'r contract newydd yn y ffordd arferol, a byddant yn derbyn copi o fewn 14 diwrnod.