Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhoi pysgod aur fel gwobrau mewn ffeiriau

Goldfish

18 Hydref 2022

Goldfish
Mae'r cyngor sir yn gofyn i drigolion ym Mhowys i feddwl ddwywaith cyn derbyn pysgodyn aur fel gwobr os ydynt wedi mynychu ffair.

Daw'r cyngor oddi wrth Wasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Powys, sy'n dweud hefyd y dylid ond derbyn pysgodyn aur fel gwobr os oes gan yr unigolyn y wybodaeth a'r cyfarpar sy'n angenrheidiol i sicrhau fod anghenion lles y pysgodyn yn cael eu diwallu, gan gynnwys mynd ag ef adref heb oedi.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn atgoffa pobl ei bod yn drosedd yng Nghymru dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 i gyflwyno anifail fel gwobr os yw'r unigolyn sy'n mynychu'r ffair yn y sir dan 16 mlwydd oed a ddim yng nghwmni oedolyn.

Dywedodd y Cyng. Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Mae perchen anifail yn gyfrifoldeb mawr sydd angen cael ei gynllunio a'i ystyried yn drwyadl - nid yw'n benderfyniad i'w wneud yn y fan a'r lle sy'n digwydd oherwydd bod rhywun wedi ennill gwobr yn unig.

"Fe fyddwn yn annog unrhyw un sy'n mynychu ffair difyrrwch i feddwl dwywaith cyn derbyn pysgodyn aur fel gwobr. Os byddant yn ei dderbyn fel gwobr, fe fydd ganddynt ddyletswydd gofal dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 ac mae'n rhaid iddynt sicrhau fod eu hanghenion yn cael eu diwallu.

"Mae unrhyw un sy'n rhoi pysgodyn aur fel gwobr i rywun dan 16 oed heb fod yng nghwmni oedolyn yn cyflawni trosedd dan y ddeddf."

Mae unrhyw un sy'n gweld pysgodyn aur yn cael eu rhoi fel gwobrau i unigolion dan 16 mlwydd oed, nad ydynt yng nghwmni oedolyn yn cael eu cynghori i adrodd y ffaith i Wasanaeth Safonau Masnach y cyngor ar 01597 826032.