Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trysorau archeolegol yn dod i'r Trallwng

Archaeological treasure

18 Hydref 2022

Archaeological treasure
Mae'r cyngor sir wedi dweud y bydd amgueddfa yng ngogledd Powys yn cynnal digwyddiad yn ddiweddarach y mis hwn i ddathlu trysorau o gaffaeliadau newydd yn cyrraedd.  

Fel rhan o ŵyl Amgueddfeydd Cymru, bydd Amgueddfa Powysland, sef Y Lanfa yn cynnal "Noswaith yn Amgueddfa Powysland" ar ddydd Mawrth 25 Hydref, o 6-7pm.

Diben y digwyddiad fydd i ddadorchuddio casgliad newydd o gaffaeliadau archeolegol sy'n drysorau, ac yn cynnwys:

  • Broes cylchol canoloesol arian, a ganfuwyd yn Llandysul.
  • Modrwy Cofia Dy Ddiwedd(Momento Mori ring) o 1711, a ganfuwyd yng Nghaersws.
  • Pum ceiniog arian Tuduraidd, a ganfuwyd yn Yr Ystog.
  • Tair ceiniog aur, a ganfuwyd yn Nhrefeglwys. Yn dyddio'n ôl i gyfnodau Siôr I a Siarl I.

Cafodd y trysorau eu prynu diolch i arian trwy grant Hel Trysorau, Hel Straeon gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, Cronfa Grant Prynu Cyngor Celfyddydau Lloegr/V&A, a'r Gronfa Gelfyddydol. 

Dywedodd y Cyng. David Selby, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Lewyrchus: "Mae'n wych gweld yr amgueddfa gydag arddangosfa o eitemau newydd, yn enwedig pan fo'r eitemau yn rhai o darddiad mor lleol a gyda chymaint o werth hanesyddol.

"Diolch i'r sefydliadau sydd wedi cefnogi prynu'r trysorau hyn, sydd wedi caniatáu i ni eu harddangos er mwyn i bawb eu gweld a'u gwerthfawrogi.

"Hoffwn annog holl drigolion Y Trallwng, a'r ardal ehangach, i ddod ac ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad hwn. Fe fydd, heb amheuaeth, yn noswaith ddifyr iawn, yn llawn gwybodaeth i bawb."

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn am ddim ond rhaid cadw lle o flaen llaw. I gadw eich lle, anfonwch e-bost at ylanfa@powys.gov.uk neu ffoniwch 01938 553001.