Trysorau archeolegol yn dod i'r Trallwng
18 Hydref 2022
Fel rhan o ŵyl Amgueddfeydd Cymru, bydd Amgueddfa Powysland, sef Y Lanfa yn cynnal "Noswaith yn Amgueddfa Powysland" ar ddydd Mawrth 25 Hydref, o 6-7pm.
Diben y digwyddiad fydd i ddadorchuddio casgliad newydd o gaffaeliadau archeolegol sy'n drysorau, ac yn cynnwys:
- Broes cylchol canoloesol arian, a ganfuwyd yn Llandysul.
- Modrwy Cofia Dy Ddiwedd(Momento Mori ring) o 1711, a ganfuwyd yng Nghaersws.
- Pum ceiniog arian Tuduraidd, a ganfuwyd yn Yr Ystog.
- Tair ceiniog aur, a ganfuwyd yn Nhrefeglwys. Yn dyddio'n ôl i gyfnodau Siôr I a Siarl I.
Cafodd y trysorau eu prynu diolch i arian trwy grant Hel Trysorau, Hel Straeon gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, Cronfa Grant Prynu Cyngor Celfyddydau Lloegr/V&A, a'r Gronfa Gelfyddydol.
Dywedodd y Cyng. David Selby, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Lewyrchus: "Mae'n wych gweld yr amgueddfa gydag arddangosfa o eitemau newydd, yn enwedig pan fo'r eitemau yn rhai o darddiad mor lleol a gyda chymaint o werth hanesyddol.
"Diolch i'r sefydliadau sydd wedi cefnogi prynu'r trysorau hyn, sydd wedi caniatáu i ni eu harddangos er mwyn i bawb eu gweld a'u gwerthfawrogi.
"Hoffwn annog holl drigolion Y Trallwng, a'r ardal ehangach, i ddod ac ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad hwn. Fe fydd, heb amheuaeth, yn noswaith ddifyr iawn, yn llawn gwybodaeth i bawb."
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn am ddim ond rhaid cadw lle o flaen llaw. I gadw eich lle, anfonwch e-bost at ylanfa@powys.gov.uk neu ffoniwch 01938 553001.