Prinder staff yn dal i amharu ar gasgliadau bin
20 Hydref 2022
Gyda nifer o aelodau o'r criwiau wedi profi'n bositif am Covid, mae wedi bod yn anochel bod mwy o gasgliadau wedi'u methu neu'n hwyr yn cael eu casglu, yn enwedig yng ngogledd y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Mae prinder staff ac achosion o covid yn parhau i achosi anhawsterau mawr i'r casgliadau gwastraff ac ailgylchu ledled y sir. Rydym yn deall bod casgliadau sy'n cael eu methu neu sy'n hwyr yn gallu bod yn rhwystredig iawn.
"Hoffem ddiolch i'n criwiau am eu hymrwymiad parhaus a'u gwaith caled ac wrth gwrs ein trigolion am eu dealltwriaeth. Hoffwn eich sicrhau ein bod yn gweithio'n galed i gadw'r gwasanaeth i fynd mor effeithiol â phosibl ac rydym wrthi'n recriwtio staff ychwanegol i helpu i leddfu'r pwysau ar y tîm presennol.
"Os nad ydych wedi derbyn casgliad erbyn 5pm ar eich diwrnod arferol, edrychwch ar-lein am fanylion pryd y byddwn yn dychwelyd i'w casglu: Diwrnod casglu biniau
"Fel arfer, byddwn yn ceisio dychwelyd cyn gynted â phosibl i gasglu biniau ar olwynion / sachau porffor a fethwyd, ond mae'n debygol y bydd casgliadau ailgylchu yn cael eu casglu yr wythnos ganlynol. Os mai hyn fydd yn digwydd, byddwn wrth gwrs yn derbyn deunydd ailgylchu ychwanegol ar wahân wedi'i adael yn ddiogel wrth ymyl eich biniau a'ch cynwysyddion ar eich diwrnod casglu nesaf."
Gofynnir i drigolion i gadw llygad ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Ailgylchu Powys a gwefan y cyngor am unrhyw ddiweddariadau i drefniadau casglu:
Facebook: @recycleforpowys / https://www.facebook.com/recycleforpowys
Twitter: @PowysRecycles / https://twitter.com/PowysRecycles
Manylion casglu biniau: Diwrnod casglu biniau