Toglo gwelededd dewislen symudol

Canllaw i Leithder a Chyddwysiad

Y gwahaniaeth rhwng lleithder a chyddwysiad

Mae lleithder yn digwydd pan fydd nam yn strwythur sylfaenol yr adeilad yn gollwng dŵr i mewn o'r tu allan.

Mae dau fath o leithder, lleithder treiddiol a lleithder yn codi.

Penetrating damp

Mae lleithder treiddiol yn digwydd pan fydd dŵr yn dod i mewn drwy'r waliau neu'r to, (er enghraifft, o dan deilsen to rhydd, pibellau sy'n gollwng neu wastraff yn gorlifo) neu drwy graciau.

Rising damp
Mae lleithder sy'n codi yn brin ond os bydd hyn yn digwydd mae problem gyda'r cwrs gwrthleithder. Mae hwn yn rhwystr sydd wedi'i ymgorffori mewn lloriau a waliau i atal lleithder rhag codi trwy'r tŷ o'r ddaear. Y dystiolaeth arferol o leithder sy'n codi yw marc ar y waliau sy'n dangos pa mor uchel y mae wedi codi. Mae yna hefyd arogl llaith.

Os yw eich cartref yn dioddef o unrhyw un o'r problemau lleithder hyn, cysylltwch â'r tîm atgyweirio tai.

Beth yw cyddwysiad?

Mae rhywfaint o leithder yn yr aer bob amser, hyd yn oed os na allwch ei weld. Rydych chi'n sylwi arno pan fyddwch chi'n gweld eich anadl ar ddiwrnod oer, neu pan fydd y drych yn mynd yn niwlog pan fyddwch chi'n cael cawod neu fath.

Mae cyddwysiad yn cael ei achosi pan fydd lleithder mewn aer cynnes yn cwrdd ag arwyneb oer fel ffenestr neu wal ac yn cyddwyso yn ddefnynnau dŵr. Os bydd hyn yn digwydd yn rheolaidd, gall llwydni ddechrau tyfu. Mae hyn fel arfer yn ymddangos ar waliau ac arwynebau allanol oer ac mewn mannau lle nad yw'r aer yn cylchredeg yn dda. Gallai'r lleithder a grëir hefyd niweidio dillad, dodrefn a waliau wedi'u peintio neu eu papuro. Mae'n gadael arogl llaith.

Gallai cyddwysiad waethygu problemau iechyd fel asthma, broncitis, arthritis a gwynegon.

 

Beth sy'n achosi cyddwysiad?

Mae cyddwysiad fel arfer yn digwydd yn y gaeaf oherwydd bod yr adeilad yn oer a bod ffenestri'n cael eu hagor yn llai  aml felly nid yw aer llaith yn gallu dianc.

Condensation

A yw'n gadael ei ôl ar waliau ac ati? Os ydy o, nid cyddwysiad yw hwn, ond lleithder. Gallai gael ei achosi gan law yn treiddio drwy ffenestri, neu leithder yn codi oherwydd cwrs gwrthleithder diffygiol neu oherwydd nad oes un yno o gwbl. Cysylltwch â ni fel y gallwn ymchwilio i'r broblem.

 

A yw eich lleithder yn cael ei achosi gan gyddwysiad?

Mae tair prif ffordd o fynd i'r afael â'r broblem

1. Atal lleithder rhag cronni

  • Sychwch arwynebau lle mae lleithder yn setlo.
  • Gorchuddiwch sosbenni sy'n berwi wrth goginio.
  • Wrth goginio, ymolchi neu olchi a sychu dillad, caewch ddrysau'r gegin a'r ystafell ymolchi i atal stêm rhag mynd i mewn i ystafelloedd oerach, hyd yn oed ar ôl i chi orffen.
  • Gorchuddiwch unrhyw danciau pysgod i atal y dŵr rhag cyddwyso i'r aer.
  • Sychwch ddillad y tu allan lle bo modd.
  • Peidiwch â hongian dillad wedi'u golchi dros reiddiaduron.

2. Sut i awyru'r cartref

  • Wrth goginio neu olchi, agorwch ffenestri neu defnyddiwch ffan echdynnu.
  • Lle bo angen sychu dillad y tu mewn, gwnewch hynny mewn ystafell fechan gyda'r ffenestri ar agor.
  • Agorwch y ffenestri am ychydig bob dydd neu defnyddiwch yr holltau awyru.
  • Peidiwch â rhwystro holltau awyru, mae hyn hefyd yn bwysig o ran offer nwy a gwresogi gan fod arnynt angen cyflenwad o ocsigen i weithio'n effeithiol a chaniatáu i nwyon, fel carbon monocsid, ddianc.
  • Gadewch i aer gylchredeg o amgylch dodrefn ac mewn cypyrddau, gallwch wneud hyn trwy sicrhau nad yw cypyrddau a wardrobs yn cael eu gorlenwi a bod lle rhwng y dodrefn a'r wal.

3. Cadwch eich cartref yn gynnes

  • Bydd atal drafftiau yn cadw'ch cartref yn gynhesach ac yn helpu i leihau biliau tanwydd. Pan fydd y tŷ i gyd yn gynhesach, mae cyddwysiad yn llai tebygol o ffurfio.
  • Bydd insiwleiddio eich lofft a'ch waliau yn helpu. Os nad yw'ch rhai chi wedi eu hinswleiddio, cysylltwch â ni am fanylion gwaith sydd wedi'i gynllunio ar gyfer eich ardal neu i gael cyngor am effeithlonrwydd ynni. 
  • Cadwch wres isel ymlaen pan fo'r tywydd yn oer neu'n wlyb, mae hyn yn fwy effeithiol na chyfnodau byr o wres uchel.

 

Gofalwch bob amser NAD YDYCH yn

  • Blocio cyfarpar awyru parhaol ee briciau aer neu holltau awyru.
  • Rhwystro simnai yn gyfan gwbl. Yn lle hynny gadewch dwll tua dwy fricsen o ran maint a gosodwch rwyll drosto.
  • Ceisiwch atal drafftiau o ystafelloedd lle mae popty neu wresogydd llosgi tanwydd, er enghraifft, tân nwy.
  • Ataliwch ddrafft o ffenestri yn yr ystafell ymolchi a'r gegin.
  • Peidiwch ag aflonyddu ar lwydni trwy ei frwsio neu ei lanhau â pheiriant sugno llwch. Gallai hyn gynyddu'r risg o broblemau anadlu.

 

Y camau cyntaf yn erbyn llwydni

Mae'r llwydni yn organeb byw ac mae angen ei ladd i gael gwared arno. I wneud hyn, sychwch yr ardaloedd yr effeithir arnynt gyda golchad ffwngladdol; un sydd â rhif cymeradwy'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch arno gan sicrhau eich bod yn dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

PEIDIWCH Â DEFNYDDIO CANNYDD NEU HYLIF GOLCHI

  • Ymdriniwch â dillad sydd â llwydni arnynt drwy eu sychlanhau a rhowch siampŵ i garpedi. Gallai dosbarthu llwydni trwy frwsio neu lanhau gyda pheiriant sugno llwch gynyddu'r risg o broblemau anadlu.
  • Ar ôl triniaeth, ailaddurnwch gan ddefnyddio paent ffwngladdol o ansawdd da i helpu i atal llwydni rhag ymddangos eto.

Sylwch nad yw'r paent hwn yn effeithiol os yw wedi'i orchuddio â phaent arferol neu bapur wal.

 

Yr hyn i'w wneud nesaf

Os ydych yn Denant Cyngor Powys:

Cysylltwch â'r Tîm Atgyweirio Tai

Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth atgyweirio ar gael yn: Gofyn am waith trwsio gan y cyngor

Os ydych yn byw mewn llety a rentir yn breifat:

  • Dylech roi gwybod i'ch landlord/asiant yn ysgrifenedig ynghylch problemau adfeiliad yn eich cartref. Gallwch wneud hyn drwy e-bost, neges destun neu lythyr ond cadwch gopi o unrhyw ohebiaeth.
  • Mae'n hanfodol eich bod chi'n rhoi'r cyfle i'ch landlord neu ei asiant gywiro'r broblem o  fewn ffrâm amser resymol.

Am wybodaeth bellach ewch i: Rhoi gwybod am broblem gyda chyflwr tŷ