Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Gofyn am waith trwsio gan y cyngor

Os oes gennych fater brys megis gwaith trwsio neu golli cartref ac angen cysylltu â ni pan mae'r swyddfeydd ar gau ar ôl 5pm neu ar benwythnosau neu wyliau banc, ffoniwch 01597 827464. Byddwn yn delio ag unrhyw alwadau sydd ddim yn flaenoriaeth ar y bore cyntaf yn dilyn ailagor swyddfeydd ar ôl y penwythnos neu Ŵyl y Banc.

Ar dderbyn eich cais, fe wnawn gysylltu â chi i drefnu amser cyfleus i gynnal archwiliad neu i wneud y gwaith angenrheidiol.  Mae gennym system Gwaith trwsio trwy apwyntiad wrth drefnu'r gwaith hwn.  Mae hyn yn golygu y gallwn wneud y gwaith ar amser sy'n gyfleus i chi.

Cyn i chi lenwi'r ffurflen,  weld os mai chi sy'n gyfrifol am y gwaith trwsio neu os yw'n rhywbeth a fydd yn cael ei wneud yn ei dro.

Esboniwch yn yr adran 'Manylion' ar y ffurflen:

Image of a drill

  • beth sydd angen ei drwsio neu'i adnewyddu
  • beth yw'r broblem
  • beth achosodd y broblem (os ydych chi'n gwybod)
  • lle mae'r broblem: y tu fewn neu du allan, i fyny'r grisiau neu i lawr y grisiau 
  • a allwch chi ddisgrifio'r eitem (maint, siap, deunydd yr eitem)?
  • a yw'n achosi unrhyw broblemau neu ddifrod arall ?
  • pryd fyddai'n gyfleus i rywun alw i archwilio'r broblem.

Gallwn ymateb yn gynt, os esboniwch y broblem yn glir i ni.

Gofyn am waith trwsio

Peidiwch â defnyddio'r ffurflen hon i roi gwybod am waith atgyweirio brys, ffoniwch 01597 827464.

Cwestiwn am waith trwsio cyffredinol Cwestiwn am waith trwsio cyffredinol

Gofyn am waith trwsio Gofyn am waith trwsio

Gofyn am waith trwsio presennol Gofyn am waith trwsio presennol

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau

 


Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu