Cyhoeddi adroddiad ar waith ymgysylltu ar Ysgol Calon Cymru
25 Hydref 2022
Mae Cyngor Sir Powys am fynd i'r afael â phroblemau gyda model gweithredu presennol Ysgol Calon Cymru, sef ysgol uwchradd ddwy ffrwd sy'n gweithio o gampysau Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod.
Yn 2021, fe wnaeth y cyngor ddatgan ei ddewis o ran y ffordd ymlaen a fyddai'n mynd i'r afael â'r problemau hyn sef:
- campws cyfrwng Saesneg 11 - 18 oed yn Llandrindod; a
- campws pob oed cyfrwng Cymraeg 4 - 18 oed yn Llanfair-ym-Muallt.
Y llynedd, lansiwyd holiadur i helpu'r cyngor ddeall beth oedd barn pobl ar ddewis y cyngor.
Erbyn hyn mae'r cyngor wedi cyhoeddi adroddiad sy'n amlinellu canfyddiadau'r gwaith hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Hoffem ddiolch i bawb a roddodd eu barn ar awgrym y cyngor ar y ffordd ymlaen.
"Pwrpas y gwaith ymgysylltu cynnar hwn oedd mesur barn trigolion lleol ar gynlluniau'r cyngor ar gyfer addysg yn yr ardal. Bydd yr adborth a dderbyniwyd fel rhan o'r gwaith hwn yn werthfawr dros ben wrth helpu'r cyngor i lunio cyfeiriad yr ysgol yn y dyfodol yng nghyd-destun yr heriau sydd o'n blaenau.
"Ochr yn ochr â'r gwaith ymgysylltu anffurfiol hwn, mae gwaith ychwanegol yn cael ei wneud i brofi'r cynlluniau, gan gynnwys gwaith i asesu dichonoldeb ailfodelu campws Ysgol Calon Cymru Llanfair-ym-Muallt i greu ysgol pob oed.
"Pan fydd y gwaith hwn wedi'i wneud, bydd angen i'r cyngor ystyried sut i symud ymlaen er mwyn sicrhau y bydd dysgwyr ar draws y dalgylch yn cael y cyfleoedd addysgol o'r ansawdd gorau yn y dyfodol mewn amrywiaeth o bynciau.
"Wrth i'r gwaith hwn fynd yn ei flaen, bydd cyfle pellach i drigolion roi barn ar unrhyw gynlluniau cyn eu rhoi ar waith."
I ddarllen canfyddiadau'r adroddiad ymgysylltu, ewch i https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/ysgol-calon-cymru