Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Byddwch yn gyfrifol y Noson Tân Gwyllt hon

Image of fireworks

27 Hydref 2022

Image of fireworks
Mae trigolion yn cael eu hannog i fwynhau Noson Tân Gwyllt ac i fod yn ystyriol a chyfrifol, meddai'r cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys am godi ymwybyddiaeth o'r effeithiau anfwriadol y gall tân gwyllt swnllyd eu cael ar anifeiliaid, yn ogystal â phobl sy'n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).

Tra bod llawer yn edrych ymlaen at Noson Tân Gwyllt, mae eraill yn llawn pryder yn y cyfnod cyn y noson. Mae adroddiadau gan yr RSPCA yn 2022 yn nodi bod bron i ddwy ran o dair (63%) o berchnogion anifeiliaid anwes/anifeiliaid yn adrodd am arwyddion o ofid yn ystod y tymor tân gwyllt.

Gall synau uchel a fflachiadau sydyn o olau llachar ddychryn anifeiliaid fferm a cheffylau ac achosi iddynt anafu eu hunain ar ffensys ac offer fferm.

Gall tân gwyllt hefyd wneud pobl sy'n agored i niwed deimlo'n ofnus ac yn bryderus a sbarduno symptomau pobl â PTSD.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Diogel: "Yn gymaint â bod noson tân gwyllt yn amser o hwyl a dathliadau i rai, mae'n gyfnod anodd iawn o'r flwyddyn i eraill, ac mae angen i ni gyd barchu hynny.

"Os ydych yn bwriadu cynnal eich digwyddiad eich hun, meddyliwch sut y gallai hyn effeithio ar y bobl a'r anifeiliaid yn eich cymuned.

"Mwynhewch eich hunain y Noson Tân Gwyllt hon, ond byddwch yn ystyriol fel y gall pawb arall fwynhau eu hunain hefyd."

Dyma rai awgrymiadau i aros yn gyfrifol:

  • Mynychu arddangosfa wedi'i threfnu yn hytrach na chynnal eich arddangosfa eich hun
  • Os ydych yn cynllunio digwyddiad, rhowch ddigon o rybudd i'ch cymdogion a'ch cymuned fel y gallant fod yn barod ar gyfer y digwyddiad
  • Peidiwch fyth â chynnau tân gwyllt ger da byw, oherwydd gall anifeiliaid ofnus - yn enwedig ceffylau - anafu eu hunain pan fyddant yn ofnus.
  • Prynwch dân gwyllt gan fanwerthwr cofrestredig, sicrhewch fod y marc CE arnynt
  • Ystyriwch ddefnyddio tân gwyllt sŵn isel gan y gallant leihau'r straen a achosir fel arfer gan dân gwyllt swnllyd lle mae anifeiliaid yn ogystal â phobl o dan sylw.

Cofiwch yr ystyriaethau hyn nid yn unig ar Noson Tân Gwyllt ond ar unrhyw adeg arall yn ystod y flwyddyn pan fyddwch efallai'n bwriadu cynnau tân gwyllt.

Dylid atgoffa preswylwyr na ellir cynnau tân gwyllt rhwng 11pm a 7am. Mae Noson Tân Gwyllt yn eithriad i'r rheol hon, pan mai hanner nos.yw'r amser hwyraf i'w cynnau.

Gallwch ddod o hyd i adnoddau i'w lawrlwytho a chefnogi diogelwch tân gwyllt ar http://www.gov.uk/guidance/my-safety-fireworks