Sefydlu tîm Powys i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched
31 Hydref 2022
Bydd Cynghorwyr o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol yn chwarae gyda'i gilydd fel tîm pêl-droed mewn gêm elusennol i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn 2022 sy'n digwydd eleni ar yr un diwrnod y bydd Cymru'n wynebu Iran yng Nghwpan y Byd FIFA yn Qatar (dydd Gwener 25 Tachwedd).
I nodi'r ddau achlusur, bydd tîm o Gyngor Sir Powys, sy'n cynnwys aelodau grŵp llywio Rhuban Gwyn yn bennaf, yn chwarae yn erbyn Chwaraewyr Wrth Gefn Clwb Pêl-droed Caersws ar gae chwarae Caersws am 1pm, dydd Sul 20 Tachwedd.
Bydd y gêm yn arwydd o gefnogaeth i Rhuban Gwyn DU sy'n rhan o fudiad byd-eang Rhuban Gwyn sy'n ceisio dod â thrais gan ddynion yn erbyn menywod i ben. Bydd hefyd yn rhag-flas o Gwpan y Byd a fydd yn dechrau am 4pm ar yr un prynhawn gyda gêm rhwng Qatar ac Ecuador.
Ar yr asgell chwith i'r cyngor fydd y Cynghorydd Matthew Dorrance o'r Blaid Lafur sydd hefyd yn Ddirprwy Arweinydd ac yn un o Lysgenhadon Rhuban Gwyn, ac ar y dde bydd Arweinydd y Grŵp Ceidwadol, y Cynghorydd Aled Davies.
Bydd yna ddeuawd o Ddemocratiaid Rhyddfrydol yn y canol gan gynnwys Arweinydd y Cyngor a gôl-geidwad y tîm y Cynghorydd James Gibson-Watt a'r Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu, y Cynghorydd Pete Roberts.
Yn cwblhau'r gynghrair enfys yn erbyn cam-drin domestig fydd y Cynghorydd Gareth E. Jones (Annibynnol).
Yn ymuno â nhw fydd eu cyd-aelodau ar grŵp llywio'r Rhuban Gwyn a'r llysgenhadon Matt Perry (Pennaeth Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Ailgylchu a'r Llysgennad Arweiniol) a Marc James (Rheolwr Dysgu yn y Gwaith).
"Rydym yn gwahodd pawb i ddod draw i wylio cynghorwyr a swyddogion Cyngor Sir Powys yn chwarae yn erbyn Clwb Pêl-droed Caersws, efallai gyda chanlyniadau digrif iawn," dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, sydd â phortffolio sy'n cynnwys cefnogi'r mudiad Rhuban Gwyn. "Byddwn yn annog gymaint o bobl â phosibl, yn arbennig dynion a bechgyn, i wneud addewid y Rhuban Gwyn i beidio byth cyflawni, esgusodi na chadw'n dawel am drais yn erbyn menywod a merched.
"Byddwn yn ceisio cael bach o hwyl ar y diwrnod cyn Cwpan y Byd ond byddwn hefyd yn hyrwyddo pwnc difrifol a niweidiol iawn o drais yn erbyn menywod a merched sydd, yn anffodus, yn cynyddu pan fydd digwyddiadau chwaraeon mawr."
Bydd aelodau grŵp llywio'r Rhuban Gwyn hefyd yn cefnogi aelodau Clwb Pêl-droed Caersws i ddod yn eiriolwyr Rhuban Gwyn ac yn bwriadu annog chwaraewyr a swyddogion clybiau chwaraeon eraill ym Mhowys i wneud yr un fath.
Dywedodd Anthea Sully, Prif Weithredwr Rhuban Gwyn DU: "Eleni, mae'r Diwrnod Rhuban Gwyn yn canolbwyntio ar yr agweddau a'r ymddygiad y gall dynion a bechgyn eu mabwysiadu i symud i ffwrdd o'r hyn sy'n eu cysylltu ag ymddygiad treisgar a chamdriniol.
"Erbyn hyn mae dynion a bechgyn yn disgwyl gwell o'u cydweithwyr, ffrindiau a theulu i sicrhau fod menywod a merched yn ddiogel."
Mae Cyngor Sir Powys hefyd wedi trefnu tair taith gerdded a fydd yn cael eu cynnal ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn (dydd Gwener 25 Tachwedd), yn dechrau am 2pm o Ganolfan Deuluol Stryd y Parc yn Y Drenewydd, Neuadd y Sir yn Llandrindod a Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu. Mae croeso i bawb o bob rhyw gymryd rhan.
Mae'r cyngor yn sefydliad sydd wedi'i achredu gan Rhuban Gwyn sy'n golygu ei fod wedi ymrwymo i ddod â thrais yn erbyn menywod yng nghymunedau Powys i ben, gwella'r diwylliant yn ei weithleoedd a sicrhau diogelwch ei staff benywaidd.
LLUN: Rhai o brif chwaraewyr Tîm Powys fel sticeri pêl-droed gan gynnwys y Cynghorydd James Gibson-Watt, y Cyngh Matthew Dorrance, Cyngh Pete Roberts, Cyngh Aled Davies, a'r Cyngh Gareth E. Jones.