Toglo gwelededd dewislen symudol

Galw am safleoedd datblygu posibl

Planning

2 Tachwedd 2022

Planning
 Mae gan drigolion, tirfeddianwyr, datblygwyr a chynghorau cymunedol gyfle i nodi tir addas a all fodloni anghenion eu cymuned leol.

Mae Cyngor Sir Powys wedi dechrau proses tair blynedd a hanner i baratoi ei Gynllun Datblygu Lleol Newydd a fydd yn cwmpasu Powys gyfan, ac eithrio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn nodi cynigion y cyngor a pholisïau defnydd tir ar gyfer datblygu tir yn ei ardal yn y dyfodol. Bydd yn cwmpasu cyfnod o 15 mlynedd o 2022 -2037 a disgwylir ei weithredu o 2026, pan fydd yn cael ei ddefnyddio i lywio penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.

Mae'r cyngor nawr yn galw am gyflwyno safleoedd datblygu posibl, a fydd yn cael eu hadnabod gyda'i gilydd fel Safleoedd Ymgeisiol, i'w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

Mae'r galw am safleoedd ar agor nawr am chwe wythnos, o ddydd Mawrth, Tachwedd 1 i ddydd Mawrth, Rhagfyr 13, 2022.

Gall unrhyw unigolyn, grŵp neu sefydliad gyflwyno safle, gwahoddir cyflwyniadau ar gyfer safleoedd sy'n addas ar gyfer pob math o ddefnydd tir gan gynnwys:

  • Pob math o Dai (gan gynnwys tai fforddiadwy ac arbenigol)
  • Cyflogaeth
  • Cyfleusterau Cymunedol
  • Twristiaeth
  • Isadeiledd Gwyrdd / Man Agored
  • Gwastraff
  • Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol
  • Sipsiwn a Theithwyr
  • Manwerthu
  • Hamdden
  • Ynni Adnewyddadwy
  • Bioamrywiaeth
  • Seilwaith Trafnidiaeth
  • Mwynau

Bydd y cyngor wedyn yn asesu'r cyflwyniadau i bennu a ydynt yn addas i'w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd ai peidio.

Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet dros Gysylltu Powys: "Nid yw'n gyfrinach mai un o'r rhesymau pam ein bod yn adolygu ein Cynllun Datblygu'n gynnar yw oherwydd nad ydym wedi cyflawni digon o ran tai a gwblhawyd.

"Fel arfer, byddai hyn yn siomedig, ond mewn cyfnod pan rydym yn wynebu argyfwng tai, mae'n annerbyniol.

"Er bod y rhesymau dros y diffyg datblygiad hwn yn gymhleth, yr hyn sy'n drawiadol yw nad oes gan y 68% yna, sef 54 o'r 80 safle sydd wedi eu clustnodi yn y Cynllun presennol, unrhyw fath o ganiatâd cynllunio, yn syml maent wedi'u cofnodi ar lyfrau rhywun. ac wedi cyfrannu dim at ein hanghenion tai dybryd.

"Wrth alw am safleoedd nawr rwyf am ei gwneud yn glir iawn y byddwn yn archwilio'r holl gynigion yn ofalus iawn ac yn eu profi i weld a oes modd eu cyflawni.

"Dylai tirfeddianwyr a datblygwyr sydd wedi'u cynnwys ar y 54 o safleoedd disymud rwyf wedi sôn amdanynt fod yn ymwybodol na fyddant yn cael eu trosglwyddo i'r cynllun newydd, rwy'n disgwyl gweld llwybr clir at gyflawni, dyma'r unig ffordd y gallwn wasanaethu anghenion ein holl gymunedau'n gywir."

I gael gwybod mwy ewch i www.powys.gov.uk a chwiliwch am Safleoedd Ymgeisiol y Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

Fel arall, ewch i un o'r 12 llyfrgell ganlynol: Aberhonddu, Llanfair ym Muallt, Llandrindod, Llanfyllin, Llanidloes, Llanwrtyd, Machynlleth, y Drenewydd, Llanandras, Rhaeadr, Y Trallwng ac Ystradgynlais.

Mae manylion cyswllt ac oriau agor pob llyfrgell ar gael ar .

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu