Toglo gwelededd dewislen symudol

Wythnos Genedlaethol Diogelu yn cynnwys lansio adnodd hyfforddi newydd a chymorth i ddisgyblion wedi'r pandemig

Joint safeguarding board

4 Tachwedd 2022

Joint safeguarding board
Mae gwrando ar blant a chadw plant ac oedolion sydd mewn perygl yn ddiogel wrth wraidd rhaglen eang sy'n cael ei chynnal ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer Wythnos Genedlaethol Diogelu, sy'n dechrau ddydd Llun, 14 Tachwedd.

Mae'r rhaglen wedi cael ei chydlynu gan CWMPAS a CYSUR, y byrddau diogelu rhanbarthol, ac fe'i lluniwyd mewn ymateb i rai o'r heriau mae plant ac oedolion mewn perygl yn eu hwynebu ar eu taith o adferiad o bandemig Covid-19.

Un o uchafbwyntiau'r wythnos yw lansio a dathlu adnodd hyfforddi diogelu ac animeiddiad fideo i weithwyr proffesiynol ar 18 Tachwedd yn stadiwm Parc-y-Scarlets yn Llanelli. Cafodd y fideo ei greu gan blant a phobl ifanc o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys a bydd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes yn ei lansio'n ffurfiol.

Bydd gweithwyr proffesiynol sy'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddiogelu plant gan gynnwys swyddogion heddlu, nyrsys, staff gofal cymdeithasol a gweithwyr addysg proffesiynol yn mynychu'r digwyddiad, a'r plant a'r bobl ifanc a oedd yn ymwneud â datblygu a chreu'r adnodd hyfforddi.

Ymhlith y digwyddiadau eraill a gynhelir gan Fwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ystod yr wythnos mae:

  • cynhadledd aml-asiantaeth ar gam-drin domestig a gynhelir gan Heddlu Dyfed Powys
  • gweminar yn ailedrych ar rai o'r themâu sy'n gysylltiedig ag adolygiad Operation Jasmine i esgeuluso pobl hŷn mewn cartrefi gofal
  • digwyddiad ar gyfer ysgolion a staff addysg i hyrwyddo iechyd a lles emosiynol cadarnhaol plant ar ôl y pandemig

"Nod Wythnos Diogelu yw codi ymwybyddiaeth ac amlygu materion sy'n effeithio ar blant ac oedolion sy'n wynebu risg," meddai Jake Morgan, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru.

"Bydd ein rhaglen ranbarthol yn cael ei chefnogi gan ddigwyddiadau cenedlaethol sy'n cael eu cynnal ar draws Cymru gyfan."

Mae digwyddiadau cenedlaethol allweddol yn cynnwys lansiad safonau hyfforddi amlasiantaeth newydd dan arweiniad Gofal Cymdeithasol Cymru ar 14 Tachwedd, a digwyddiad ar lywio dyfodol diogelu yng Nghymru, a gynhelir gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol mewn cydweithrediad â'r Uned Atal Trais yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol John Moore Lerpwl.

Mae mwy o wybodaeth am y rhaglen ranbarthol ar gael yn https://www.cysur.cymru/wythnos-genedlaethol-diogelu-2022/

Gallwch ddilyn Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru ar

  • Twitter @CYSURCymru /@CWMPASCymru
  • Facebook @CYSURCymru
  • Instagram @cysurcymru