Cau pont yn barhaol
8 Tachwedd 2022
Cafodd y bont dros Afon Hengwm ar lwybr troed 260/40/1 yn Hengwm Cyfeiliog ger Machynlleth ei chau yn ystod pandemig COFID gyda'r gobaith y byddai'n ail-agor ar ôl cael ei thrwsio. Ond mae'r difrod i gynhaliad y bont mor wael nes y gallai'r strwythur ddymchwel, a rhaid cau'r bont yn barhaol er budd diogelwch y cyhoedd.
Caiff cerddwyr eu dargyfeirio at bont arall sy'n croesi tua 500m i fyny'r afon ar hyd llwybrau troed cyfagos - bydd y dargyfeiriad yn ychwanegu tua 890m at y daith.
Dywedodd Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach, y Cynghorydd Jackie Charlton: "Rydym yn deall y pryderon ynghylch cau'r bompren, sy'n hynod boblogaidd, ac rydym yn gwerthfawrogi pa mor bwysig yw'r bompren i'r economi leol, cerddwyr lleol a phobl leol.
"Fodd bynnag, rhaid i ni roi blaenoriaeth i ddiogelwch y cyhoedd. Cafodd y bont ei chau yn ystod y pandemig a gosodwyd rhwystrau mewn lle. Roedd yn cael ei harchwilio'n rheolaidd ond nid oedd modd cyflawni gwaith.
"Mae ein pryder am y bont wedi cynyddu fwyfwy, gan fod y strwythur sy'n cynnal y bont yn dirywio ac fe allai ddymchwel. Mae angen i ni weithredu i gael gwared ar y bont fel mater o frys er budd diogelwch y cyhoedd a gofyn i gerddwyr ddefnyddio'r fan arall i groesi.
"Mae amodau'r safle a'r afon yn golygu nad yw gosod pont newydd yn ddichonadwy felly ni fydd cau'r bont yn dylanwadu ar unrhyw gynlluniau adnewyddu oherwydd bydd angen cael lleoliad newydd.
"Bydd y gost o adnewyddu'r bompren yn sylweddol a dim ond pan fyddai adnoddau ar gael y byddai'r gwaith yn cael ei ystyried a bydd yn rhaid iddo gystadlu â blaenoriaethau eraill o ran cynnal a chadw," ychwanegodd.
"Rydym ni'n gwerthfawrogi bod cau'r bompren yn siomi llawer ond rhaid i ddiogelwch y cyhoedd fod yn flaenoriaeth i ni a does dim ateb arall."