Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwrs Sylfaen Trin Pobl

Trosolwg o'r Cwrs:

Mae'r 'Cwrs Sylfaen Trin Pobl' yn gwrs codi a chario ymarferol sy'n dangos y dulliau mwyaf diogel i staff gofal eu defnyddio wrth drosglwyddo defnyddwyr gwasanaeth gyda a heb offer codi a chario dynodedig. Mae'r cwrs yn cydymffurfio â'r safon sy'n ofynnol gan 'Basbort Symud a Thrin Pobl Cymru Gyfan' ac mae'n ofyniad gorfodol ar gyfer holl staff gofal cymdeithasol oedolion mewn cyflogaeth yn y sector cyhoeddus a phreifat. Mae angen diweddariadau blynyddol i sicrhau bod yr holl staff gofal yn gweithio'n ddiogel er eu diogelwch corfforol eu hunain a diogelwch a chysur eu defnyddwyr gwasanaeth.

Budd Sefydliadol:

Sicrhau bod staff gofal cymdeithasol oedolion yn gweithio mor ddiogel â phosibl gyda'u defnyddwyr gwasanaeth ac yn defnyddio'r holl offer codi a chario a ddarperir yn briodol. Lleihau'r siawns o anafiadau corfforol iddyn nhw eu hunain a'u defnyddwyr gwasanaeth. Cydymffurfio hefyd â rhwymedigaethau cyfreithiol cyflogwyr o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a chanllawiau Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario.

Pwy ddylai fynychu:

Mae'n ofynnol i staff gofal cymdeithasol oedolion mewn cyflogaeth yn y sector cyhoeddus a phreifat fynychu'r hyfforddiant gorfodol hwn. Bydd y cwrs hwn hefyd yn apelio at Gynorthwywyr Personol a gyflogir yn uniongyrchol gan Ddefnyddwyr Gwasanaeth.

Amcanion Dysgu:

  • Bydd dysgwyr wedi cydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol i fynychu hyfforddiant gorfodol.
  • Bydd dysgwyr yn dod yn gymwys i drosglwyddo defnyddwyr gwasanaeth trwy ddulliau corfforol diogel o dan oruchwyliaeth hyfforddwr.
  • Bydd dysgwyr yn cymhwyso egwyddorion trin pobl yn fwy diogel i bob llwyth.
  • Bydd dysgwyr yn dod yn gymwys i drosglwyddo defnyddwyr gwasanaeth gan ddefnyddio offer codi a chario a ddarperir o dan oruchwyliaeth hyfforddwr a ddosberthir gan Therapyddion Galwedigaethol Cyngor Sir Powys.
  • Bydd dysgwyr yn gallu nodi deddfwriaeth codi a chario berthnasol.
  • Bydd dysgwyr yn defnyddio offer codi a chario yn ddiogel.

Cynnwys y Cwrs:

  • Cyflwyniad i Dechnegau Eistedd, Sefyll a Cherdded â Chymorth.
  • Cyflwyniad i Drosglwyddiadau Ochrol.
  • Cyflwyniad i ddefnyddio Hoist a Sling.
  • Cyflwyniad i Gallu Symud yn y Gwely a Defnyddio Cynfasau Llithro.
  • Cyflwyniad i 'Arferion Gofal a roddir gan Un Unigolyn'.
  • Cyflwyniad i ddeddfwriaeth IaD LOLER a PUWER.

Hyd:

09.00 - 16.30

Hanner awr i ginio.

Dyddiadau a Chostau'r Cwrs:   Cysylltwch â leadership@powys.gov.uk

Gwybodaeth arall:

6 dysgwr ar bob cwrs ar hyn o bryd oherwydd prinder lle.

Archebu:

Gallai gweithwyr Cyngor Sir Powys archebu lle ar y cwrs hwn trwy Hunanwasanaeth iTrent. Ar gyfer pob ymgeisydd arall, anfonwch e-bost at: leadership@powys.gov.uk.

Cyngor Sir Powys, Dylunio a Datblygu Sefydliadol

E-bost:leadership@powys.gov.uk

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu