Toglo gwelededd dewislen symudol

Agor datblygiad tai yn swyddogol

Image of Clos-Yr-Hen-Ysgol in Llanidloes

14 Tachwedd 2022

Image of Clos-Yr-Hen-Ysgol in Llanidloes
Mae datblygiad newydd o dai cymdeithasol yng ngogledd Powys wedi'i agor yn swyddogol gan y cyngor sir.

Tîm Datblygu Cyngor Sir Powys oedd yn gyfrifol am ddatblygiad Clos-yr-Hen-Ysgol yn Llanidloes, ac fe'i agorwyd yn swyddogol ar ddydd Mawrth 1 Tachwedd gan y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach.

Mae'r datblygiad yn cynnwys 22 o dai cyngor newydd ar hen safle'r farchnad da byw yn y dre, ac fe'i adeiladwyd gan y contractwyr J Harper and Sons (Leominster) Ltd.

Fel rhan o'r datblygiad, adeiladwyd dau dŷ pedair ystafell wely, pedwar tŷ dwy ystafell wely, chwe thŷ tair ystafell wely, wyth byngalo dwy ystafell wely a dau fyngalo dormer tair/pedair ystafell wely ar y safle yn Ffordd y Gorn.

Bydd y datblygiad gwerth £3.9m a fydd yn berchen i, ac yn cael ei reoli gan y cyngor, yn cynnig cartrefi sydd eu hangen yn fawr iawn a hynny am rent fforddiadwy, ac fe'u dyfarnwyd i ymgeiswyr sydd ar Gofrestr Tai Gyffredin Powys.

Ariannwyd y datblygiad gyda benthyciad o £2m trwy gynllun Benthyciadau Canol Trefi Llywodraeth Cymru a Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a gafodd ei sicrhau gan Dimoedd Adfywio a Thai Fforddiadwy y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Roedd yn bleser cael agor Clos-yr-Hen-Ysgol yn Llanidloes a hoffem ddiolch i'n partneriaid adeiladu J Harper and Sons am ein helpu ni gyflwyno'r datblygiad tai cymdeithasol hwn.

"Ni allwn adeiladu Powys gryfach, tecach a gwyrddach heb fynd i'r afael â'r argyfwng tai yn y sir.  Yr unig ffordd i wireddu hyn yw trwy adeiladu tai cyngor o ansawdd uchel.

"Nid yn unig y mae'r datblygiad hwn yn ateb anghenion y gymuned leol ond mae'n gynllun pwysig a fydd yn ein helpu ni fynd i'r afael â'r argyfwng tai."

Dywedodd Mike Harvey, Grŵp Gyfarwyddwr Masnachol, J. Harper and Sons Ltd "Mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr â Chyngor Sir Powys i adeiladu tai o ansawdd uchel a sydd eu hangen yn fawr i fynd i'r afael â'r argyfwng tai lleol.

"Mae'n glod i Aelodau'r Cyngor, cyllidwyr, y tîm tai a'r gymuned bod datblygiad pwysig o'r fath wedi gallu bod yn bosibl mewn cyfnod mor anodd."

Dywedodd y Cynghorwyr Gareth Morgan a Glyn Preston, Cynghorwyr ardal Llanidloes: "Ry'n ni wrth ein boddau bod y cyngor sir wedi adeiladu'r datblygiad hwn o dai cymdeithasol sydd wedi darparu cyfleusterau tai o ansawdd uchel, sydd wir eu hangen yn ein cymuned.  Hoffwn ddiolch i'r cyngor a'r contractwyr J. Harper and Sons Ltd am wireddu'r cynllun hwn gan obeithio y bydd y tenantiaid wrth eu boddau yn eu cartrefi newydd."