Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Llwyddo i erlyn am dwyll a masnachu twyllodrus

Image of a gavel

14 Tachwedd 2022

Image of a gavel
Mae dau ddyn a wnaeth gwaith draenio gwael ar eiddo ger Llandrindod wedi cael gorchymyn cymunedol o 12 mis yr un ar ôl cael eu herlyn gan Gyngor Sir Powys.

Cafodd John Everitt Dixon o Rye Leaze, Bryste a Benjamin Michael Gracie o Roman Close, Lentwardine eu herlyn gan Wasanaeth Safonau Masnach y cyngor ar ôl gwneud y gwaith ar eiddo yn Hawy.

Plediodd Dixon a Gracie yn euog i fasnachu'n anheg a chyhuddiadau o dwyll gan gynnwys:

  • gwneud gwaith masnachol yn fwriadol neu'n fyrbwyll, sef gwneud gwaith draenio oedd yn is na'r safon angenrheidiol;
  • methu cyflwyno'r gwaith papur angenrheidiol i'r cwsmer;
  • methu rhoi manylion nodyn trosglwyddo gwastraff ar gais y cwsmer;
  • yn parhau â busnes, sef gwaith draenio, gyda'r bwriad o dwyllo credydwyr yn fwriadol.

Cynhaliodd y swyddogion safonau masnach ymchwiliad i'r gwaith a wnaed gan Dixon a Gracie, ynghyd ag unigolion eraill a gyflogwyd gan y pâr, ar yr eiddo yn Hawy ym mis Gorffennaf 2021.

Ar 21 Gorffennaf 2021, rhoddodd Gracie amcangyfrif o £1,900 i'r perchennog am y gwaith.  Ond y pris terfynol oedd £2,600 a dalwyd mewn dau swm i Dixon - £1,000 o arian parod a £1,600 trwy drosglwyddiad banc.

Yn ôl yr ymchwiliad, nid oedd y diffynyddion wedi rhoi unrhyw waith papur, ni chafwyd unrhyw gynlluniau ac nid oedd yn ymddangos fod gan yr un o'r ddau drwydded i glirio'r rhwbel o'r eiddo yn dilyn y gwaith cloddio.

Hefyd, gwelwyd fod y system ddraenio a osodwyd yn yr eiddo yn hollol anaddas i'r diben.  Ar gais y swyddogion safonau masnach, cynhaliodd peiriannydd draenio ymchwiliad gan ddarganfod nad oedd y system ddraenio wedi'i chysylltu, roedd rhai pibellau cysylltu ar goll ac yn anghyflawn gan olygu nad oedd y system yn gweithio fel y dylai ac nad oedd y gwaith wedi'i wneud gan gontractwr draenio cymwys.

Hefyd, yn ôl yr ymchwiliad, fe wnaeth y diffynyddion bopeth yn eu gallu i geisio gwadu cyfrifoldeb am eu gwaith, gan osgoi galwadau ffôn neu, wrth ateb, byddent yn gwadu mai nhw oedd yn gyfrifol am y gwaith gan geisio beio rhywun arall.

Derbyniodd Gracie a Dixon orchymyn cymunedol o 12 mis a'u gorchymyn gan ynadon i wneud 100 awr o waith di-dâl.  Cafodd Gracie hefyd 20 niwrnod o ofyniad gwaith adsefydlu (RAR) gyda Dixon yn derbyn 10 diwrnod.

Bu rhaid i'r ddau ddiffynnydd dalu £1,300 yr un o iawndal i'r dioddefwyr ynghyd â gordal o £95 a £85 ar gyfer costau'r cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys fwy Diogel: "Mae'r achos hwn yn anfon neges glir na wnawn oddef unrhyw arferion masnachu o'r fath.

"Dylai'r achos hwn atgoffa ein trigolion i fod yn wyliadwrus o'r troseddau a'r sgamiau hyn er mwyn peidio syrthio i dwyll masnachwr twyllodrus.  Rwy'n annog trigolion i wneud ymchwil ar fusnes cyn mynd i gytundeb ac i fod yn ofalus wrth dalu arian o flaen llaw.

"Am unrhyw waith ar gartref rhywun sydd werth dros £42, mae'n rhaid i fasnachwyr yn ôl y gyfraith roi hawl i ganslo.  Mae hyn yn rhoi 14 diwrnod i rywun ganslo cytundeb.

"Dan y rheolau, mae'n rhaid i fasnachwyr ddangos diwydrwydd proffesiynol yn eu gwaith.  Os bydd y cyngor yn derbyn adroddiadau o grefftwaith gwael iawn neu nad yw'r gwaith yn ôl y disgrifiad, gall hyn arwain at ymchwiliad gan ein tîm Safonau Masnach."