Toglo gwelededd dewislen symudol

Cadwch yn ddiogel wrth siopa ar-lein

Image of a shopping trolley, shopping bags and a laptop

16 Tachwedd 2022

Image of a shopping trolley, shopping bags and a laptop
Mae'r cyngor sir yn annog defnyddwyr ym Mhowys i gadw eu hunain yn ddiogel pan yn siopa ar-lein wrth i bawb ddechrau prynu nwyddau ar gyfer y Nadolig.

Gyda Dydd Gwener Du, Llun Seibr a'r tymor gwyliau yn prysur agosau, mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Powys a Chyngor ar Bopeth wedi rhyddhau awgrymiadau defnyddiol i atgoffa siopwyr sut i siopa'n ddiogel ar-lein.

Mae'r cyngor defnyddiol hwn yn nodi dechrau Wythnos Genedlaethol Defnyddwyr eleni, sy'n rhedeg o ddydd Llun, 14 Tachwedd tan ddydd Sul, 20 Tachwedd.

Mae'r ymgyrch flynyddol yn cael ei gynnal gan Cyngor ar Bopeth ynghyd â'r Bartneriaeth Diogelu Defnyddwyr, sy'n cynnwys yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a Safonau Masnach.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Ar draws y sir, mae ceisio cael dau ben llinyn ynghyd yn fwyfwy anodd wrth i bwysau ariannol gynyddu.

"Gyda thymor gwerthiant y Nadolig yn prysur agosáu, mae'n hanfodol ein bod yn adnabod arwyddion wrth i ni geisio cael bargen yn ystod y cyfnod cyn yr ŵyl.

"Gall unrhyw un gael ei dwyllo gan sgam, a gall hyd yn oed y siopwyr mwyaf call gael eu dal allan.

"Ni ddylech deimlo cywilydd os yw hyn yn digwydd i chi. Trwy wybod sut i siopa'n ddoeth, a beth i'w wneud os oes rhywbeth yn mynd o'i le, gallwn ddiogelu ein hunain a'n gilydd yn well."

Mae Gwasanaeth Safonau Masnach yn cyngor a Chyngor ar Bopeth wedi cynnig yr awgrymiadau defnyddiol hyn i siopa'n ddiogel ar-lein.

Gwnewch eich gwaith ymchwil

  • Cyn prynu o wefan nad ydych wedi'i defnyddio o'r blaen, treuliwch ychydig o funudau yn ei wirio
  • Edrychwch ar yr hyn y mae pobl wedi dweud am y person neu'r cwmni ry'ch prynu oddi wrthyt drwy edrych ar adolygiadau ar wefannau gwahanol - peidiwch â dibynnu ar yr adolygiadau y mae'r cwmni wedi rhoi ar ei wefan ei hun
  • Os ydych chi'n poeni y gallai rhywbeth ry'ch chi wedi'i weld ar-lein fod yn dwyll gallwch gael help gan linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth - 0808 223 1133.

Byddwch yn ddoeth i sgamiau cudd

  • Os yw bargen yn ymddangos i fod yn rhy dda, mae'n debyg nad yw'n fargen go iawn!
  • Os yw cynnyrch wedi'i frandio ond mae'n llawer rhatach na'r hyn sy'n ymddangos ar wefan y brand, gallai fod yn ffug.  Gallai fod yn gynnyrch 'edrych yn debyg' cyfreithlon.
  • ·         Y naill ffordd neu'r llall, efallai na fydd yr ansawdd yr hyn yr oeddech yn dymuno ei gael

Dulliau talu

  • Byddwch yn wyliadwrus o werthwr sy'n gofyn i chi dalu drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol.  Nid oes gan drosglwyddiadau banc llawer o amddiffyniad os yw pethau'n mynd o'i le, felly gwnewch eich gorau i'w hosgoi.
  • Os ydych yn prynu eitemau gwerth dros £100 defnyddiwch gerdyn credyd er mwyn manteisio ar eich hawliau Adran 75
  • Os oes angen anfon neu dderbyn arian arnoch, defnyddiwch ap y farchnad ar-lein neu wefan gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd, neu drwy ddulliau dibynadwy o dalu megis PayPal.

Gwybod eich hawliau

  • Os ydych wedi prynu nwyddau gan fanwerthwr, efallai y bydd gennych hawl i gynnyrch newydd neu i gael eich cynnyrch wedi'i drwsio os oes gennych nwyddau diffygiol.  Gallwch hyd yn oed hawlio ad-daliad llawn os gallwch brofi bod y nwyddau'n ddiffygiol
  • Os ydych wedi prynu oddi wrth unigolyn, efallai trwy farchnad ar-lein, bydd gennych lawer llai o hawliau.  Yn wir, nid oes gennych hawl i ddychwelyd y nwyddau, cyhyd â bod y nwyddau 'fel y disgrifiwyd'
  • Cofiwch gymryd sgrinlun o'r disgrifiad ac i wirio a gwirio eto cyn i chi brynu.

Pan fydd pethau'n mynd o'i le

  • Os ydych wedi prynu rhywbeth sydd wedi torri, wedi'i ddifrodi, yn anniogel neu ddim yr hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl cysylltwch â'r gwerthwr a rhowch gyfle iddyn nhw ei gywiro
  • Os nad yw hynny'n gweithio, cysylltwch â llinell gymorth Cyngor ar Bopeth - 0808 223 1133
  • Cysylltwch â'ch banc neu'ch darparwr cyllid i weld pa gymorth y gallant ei ddarparu.

Am wybodaeth a chyngor, cysylltwch â llinell gymorth defnyddwyr am ddim Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 neu cysylltwch â chynghorydd sy'n siarad Cymraeg drwy ffonio 0808 223 1144.

Neu, gallwch ffonio Advicelink Cymru ar 0800 702 2020. Mae Advicelink Cymru yn wasanaeth Cyngor ar Bopeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i lunio i helpu pobl sydd â'r angen mwyaf am wasanaethau cynghori, yn enwedig rhai na fyddai fel arfer, yn gofyn am gyngor.  Gall pobl yng Nghymru gael mynediad i'r gwasanaeth o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.