Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ffigyrau ailgylchu Powys yn mynd tu hwnt i darged

Image showing a recycling icon

17 Tachwedd 2022

Image showing a recycling icon
Mae'r data diweddaraf a gyhoeddwyd gan Stats Cymru yn cadarnhau bod Powys unwaith eto wedi rhagori ar darged ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru o 64%, gyda chyfradd ailgylchu trawiadol o 66.8% ar gyfer 2021/22.

Mae Cymru'n perfformio'n well na chenhedloedd cartref eraill y DU o ran ailgylchu, ac ar hyn o bryd mae'n un o wledydd gorau'r byd o ran ailgylchu gyda chyfradd ailgylchu ar gyfartaledd o 65.2%. Fel gwlad mae ein hymdrechion ailgylchu eisoes yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i helpu i leihau effeithiau newid hinsawdd, gan arbed tua 400,000 tunnell o CO2 y flwyddyn rhag cael ei rhyddhau i'r atmosffer.

"Gyda chyfradd ailgylchu yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol, mae pobl Powys yng nghwmni'r gorau o ran ailgylchu, gyda chyfraddau ledled y sir yn parhau i godi bob blwyddyn." Eglura'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar ran Powys Wyrdach.

"Mae'r ffigyrau swyddogol hyn wedi cadarnhau bod gwaith caled ac ymrwymiad ein trigolion a'n criwiau yn dwyn ffrwyth. Ond mae mwy i'w wneud o hyd wrth geisio mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac i gyflawni targed nesaf Llywodraeth Cymru o ailgylchu, ailddefnyddio, neu gompostio 70% o'n gwastraff erbyn 2025.

"Rydym eisoes yn gwybod ein bod yn sir o ailgylchwyr cydwybodol sy'n cymryd balchder mawr o wneud ein rhan dros yr amgylchedd, a does gennym ddim amheuaeth y byddwn gyda'n gilydd yn parhau i wneud pob ymdrech i gynyddu ein hailgylchu ymhellach ac adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy i'r cenedlaethau sydd i ddod."

I gael rhagor o fanylion am yr hyn y gellir ei ailgylchu ac na ellir ei ailgylchu trwy eich casgliadau ailgylchu wythnosol ac yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Aelwydydd, ewch i Biniau, sbwriel ac ailgylchu