Eitem o amgueddfa'r cyngor yn ymddangos ar Bargain Hunt
18 Tachwedd 2022
Roedd yr eitem arbennig, y gellir ei gweld yn Amgueddfa Maesyfed yn Llandrindod ar rifyn o Bargain Hunt, BBC1. Cafodd y rhaglen ei darlledu ddydd Llun 7 Tachwedd ac mae modd ei gweld o hyd ar BBC iPlayer.
Ymwelodd y rhaglen boblogaidd, ble mae dau bâr o gystadleuwyr yn prynu antîcs o siopau a ffeiriau ac yna eu gwerthu mewn arwerthiant am elw, â'r amgueddfa i ffilmio'r delyn.
Fel rhan o'r ymweliad, cafodd staff Amgueddfa Maesyfed a chyflwynydd Bargain Hunt, Natasha Raskin-Sharp, y wefr o wrando ar berfformiad gan Gareth Swindail-Parry, telynor deires wobrwyedig.
Yna, siaradodd y cyflwynydd, Natasha, â churadur Amgueddfa Maesyfed, Lorna Steel am y delyn, a oedd yn eiddo i John Roberts sef cerddor nodedig yn ystod Oes Fictoria. Cafodd y delyn ei chyflwyno i'r amgueddfa yn y 1950au gan ei deulu.
Cafodd y rhaglen ei ffilmio ym mis Mai pan wnaeth y rhaglen dywys y cystadleuwyr i ffair antîcs ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Dywedodd y Cynghorydd Selby, Aelod Cabinet am Bowys Ffyniannus: "Roeddem wrth ein boddau o gael ein gofyn i wylio'r eitem arbennig hon i Bargain Hunt. Roedd y criw ffilmio yn broffesiynol iawn ac roedd pawb wedi eu syfrdanu gan berfformiad Gareth.
"Mae'n grêt bod un o'n hamgueddfeydd wedi ymddangos ar Bargain Hunt ac i weld ein treftadaeth ddiwylliannol Gymreig yn cael ei hyrwyddo ar deledu cenedlaethol."
Gallwch wylio'r rhaglen o hyd ar BBC iPlayer drwy chwilio am Bargain Hunt.