Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gem bêl-droed wedi'i chanslo ond teithiau cerdded yn dal i fynd yn eu blaen

A football in the rain and people walking

18 Tachwedd 2022

A football in the rain and people walking
Mae gêm bêl-droed elusennol rhwng tîm o Gyngor Sir Powys a Caersws Reserves oedd wedi'i chynllunio ar gyfer ddydd Sul 20 Tachwedd yng Nghaersws wedi cael ei chanslo.

Mae'r digwyddiad, a oedd wedi'i drefnu i gefnogi Rhuban Gwyn y DU, wedi cael ei chanslo oherwydd pryderon am ragolygon o dywydd garw ar y diwrnod a'r angen i amddiffyn wyneb chwarae y Cae Hamdden.

Bydd tair taith gerdded a gynlluniwyd ar gyfer Diwrnod y Rhuban Gwyn (dydd Gwener 25 Tachwedd) yn dal i fynd yn eu blaen, gan ddechrau am 2pm o Ganolfan Deuluoedd Stryd y Parc yn y Drenewydd, Neuadd y Sir yn Llandrindod a Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu. Anogir pobl o bob rhyw i gymryd rhan.

Mae Rhuban Gwyn y DU yn rhan o fudiad byd-eang y Rhuban Gwyn sydd â'r nod o ddod â thrais dynion yn erbyn menywod a merched i ben, drwy ymgysylltu â dynion a bechgyn.

"Rydyn ni'n siomedig iawn ein bod ni wedi gorfod canslo ein cynlluniau ar gyfer gêm bêl-droed i nodi Dydd Rhuban Gwyn 2022," meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, sydd â phortffolio sy'n cynnwys cefnogi'r mudiad Rhuban Gwyn, "ond mae dal i fod cyfle i ddangos eich cefnogaeth drwy ymuno ag un o'r tair taith gerdded rydyn ni wedi trefnu yn y Drenewydd,  Llandrindod ac Aberhonddu ar 25 Tachwedd.

"Hoffwn annog dynion a bechgyn ym Mhowys i wneud addewid y Rhuban Gwyn i beidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel am drais yn erbyn menywod a merched.  Mae modd ei wneud ar-lein ar wefan Rhuban Gwyn y DU: https://www.whiteribbon.org.uk/promise?rq=promise

"Mae hyn yn arbennig o addas ar hyn o bryd gan fod trais yn erbyn menywod a merched yn tueddu i gynyddu o gwmpas digwyddiadau chwaraeon mawr fel Cwpan y Byd Dynion FIFA."

Mae Cyngor Sir Powys yn sefydliad achrededig y Rhuban Gwyn, sy'n golygu ei fod wedi ymrwymo i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod mewn cymunedau ym Mhowys, gan wella diwylliant ei weithle ei hun a sicrhau diogelwch ei weithwyr benywaidd.