Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ysgol Uwchradd Gwernyfed

Image of a primary school classroom

21 Tachwedd 2022

Image of a primary school classroom
Mae'r cyngor sir wedi cadarnhau y bydd tîm o uwch swyddogion addysg yn gweithio gydag ysgol uwchradd ym Mhowys yn dilyn arolwg Estyn siomedig.

Bydd swyddogion o Gyngor Sir Powys, gan gynnwys swyddogion gwella ysgolion, yn cefnogi Ysgol Uwchradd Gwernyfed wedi i'r ysgol gael ei gosod mewn 'mesurau arbennig' gan Estyn yn dilyn arolwg diweddar.

Dywedodd y Cyng. Pete Roberts, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys sy'n Dysgu: "Mae'n newyddion eithriadol o siomedig ond nid annisgwyl.

"Ymunodd tîm rheoli newydd â'r ysgol y tymor hwn sy'n gwybod y camau fydd angen eu cymryd i sicrhau gwelliant cyflym ac maen nhw eisoes wedi dechrau ar y gwaith i wneud i hyn ddigwydd.

"Mae gennym gyfarwyddyd hyd yn oed mwy eglur yn awr ar yr hyn sydd ei angen a bydd y cyngor yn cyflwyno'r holl gefnogaeth angenrheidiol i'r ysgol wrth iddi ddechrau ei thaith i wella."

Bydd yr adroddiad a'r argymhellion, sydd wedi cael eu derbyn gan uwch dîm arwain corff llywodraethu'r ysgol, yn ffurfio'r sail ar gyfer cynllun gweithredu manwl i drafod y meysydd allweddol sydd angen gwelliannau.

Bydd swyddogion yn gweithio gyda'r ysgol a'r corff llywodraeth i ddynodi rhesymau ar gyfer deilliant yr arolwg gan gydweithio i gyflwyno gwelliannau arwyddocaol a chyflym. Bydd y staff, disgyblion a rhieni yn cael eu cefnogi'n llwyr yn ystod y daith wella.

Dywedodd Geoff Mesher, Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Uwchradd Gwernyfed: "Mae'r Llywodraeth yn naturiol siomedig gyda'r deilliant yn sgil yr ymweliad dilynol. Rydym yn gwerthfawrogi fod y gwaith sydd i'w wneud yn sylweddol.

"Mae newidiadau wedi cael eu gwneud ar frig uwch dîm arwain yr ysgol ac rydym yn hyderus y bydd y rhain yn galluogi'r ysgol i wneud cynnydd positif wrth symud ymlaen.

"Rydym yn ymroddedig tuag at sicrhau fod pob disgybl yn cael yr addysg orau bosibl yng Ngwernyfed."

I weld yr adroddiad arolwg, edrychwch ar www.estyn.llyw.cymru