Adolygiad llifogydd
21 Tachwedd 2022
Bydd yr adolygiad, a fydd yn cynnwys adborth gan drigolion, aelodau etholedig a busnesau, yn asesu pa feysydd oedd wedi gweithio a lle mae angen gwaith atgyfnerthu ychwanegol wedi iddi fwrw gwerth mis o law mewn llai na 24 awr.
Dangosodd cofnodion glaw ar gyfer Ystradgynlais ei fod wedi bwrw 44.2mm o law ar 2 Tachwedd gydag 16.3mm yn disgyn mewn dim ond 30 munud. Cyrhaeddodd lefelau dŵr ym Mhont Teddy Bear y lefelau uchaf a gofnodwyd erioed.
Dioddefodd 46 eiddo yn ardal Ystradgynlais lifogydd mewnol gyda nifer o rai eraill wedi'u heffeithio gan ddŵr ffo arwynebol oherwydd y llifogydd. Mae'r cyngor eisoes wedi symud 400 tunnell o falurion gyda 200 tunnell arall eto i fynd.
Diolchodd Jackie Charlton yr Aelod Cabinet dros Bowys Wyrddach, i'r trigolion am ymateb i'r alwad am wybodaeth ar effaith y llifogydd gan ddweud y byddai'r adborth yn cael ei ddefnyddio fel rhan o'r adolygiad atal llifogydd.
"Bydd y wybodaeth yn ychwanegu i'r dadansoddiad hydrolig o'r systemau cylfatiau a dŵr arwynebol sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd a bydd yn helpu i ddatblygu gwelliannau i'r amddiffynfeydd rhag llifogydd ar gyfer y dyfodol," dywedodd.
"Mae'r Cyngor Sir yn ystyried cyfleoedd am gyllid gan Lywodraeth Cymru i drwsio amddiffynfeydd llifogydd presennol a'r seilwaith draenio a difrodwyd gan y llifogydd, yn ogystal â chyllid i ddarparu amddiffynfeydd newydd yn yr ardal.
"Roedd nifer o'r cylfatiau a'r cilfachau a gafwyd eu heffeithio gan y llifogydd neu a gorlifwyd wedi'u harchwilio cyn y digwyddiad ond roedden nhw wedi'u gorlethu'n llwyr gan y dŵr arwynebol. Ro'n ni'n ddiolchgar iawn i ymateb staff y cyngor a chydweithwyr y gwasanaethau brys am eu gwaith caled ar y noson.
"Byddwn yn gweithio gyda chymunedau i wneud yr hyn y gallwn i'w hamddiffyn yn erbyn llifogydd yn y dyfodol ac i gefnogi camau gweithredu lleol i helpu i fynd i'r afael â'u pryderon dealladwy, ond nid oes unrhyw atebion cyflym. Byddwn yn parhau i archwilio a chynnal a chadw ein cylfatiau a system ddraenio, ond mae'n glir eu bod nhw'n methu ymdopi ag effaith newid yn yr hinsawdd."
Os cafodd eich eiddo ei effeithio ac nid oes unrhyw un o dîm Powys wedi cysylltu â chi'n barod, mae dal i fod amser i chi roi gwybod amdano gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol Rhoi gwybod am lifogydd neu gallwch anfon e-bost at y tim draenio'n uniongyrchol land.drainage@powys.gov.uk. Rhif ffon y Tim Cynllunio Brys Tu Allan i Oriau Swyddfa yw 0345 0544847.