Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trefn gwyno i deithwyr tacsis

Mae'n gamsyniad cyffredin fod yr Awdurdod Trwyddedu yn cyflogi gyrwyr trwyddedig. Nid yw hyn yn wir.

Mae trwyddedau Cerbyd Hacni a Hurio Preifat yn caniatáu i ddeiliaid redeg eu busnesau eu hunain.  Fel perchnogion busnes unigol, mae dalwyr trwydded mewn sefyllfa i redeg eu busnesau fel y gwelant yn dda, ar yr amod eu bod yn bodloni gofynion y trwyddedau sydd ganddynt a'r gyfraith sy'n llywodraethu'r drwydded.

Felly, dylid cyfeirio unrhyw gwynion am wasanaeth at y gweithredwr perthnasol neu'r perchennog unigol os yw'n Gerbyd Hacni nad yw'n gysylltiedig â gweithredwr.

Mae pob cwyn y mae'r Awdurdod Trwyddedu'n edrych i mewn iddynt yn seiliedig ar addasrwydd y gyrrwr i ddal trwydded a/neu gyflwr y cerbyd trwyddedig. Yn unol â hynny, dylid cyfeirio unrhyw gwynion am safonau gyrru at yr Heddlu yn ogystal.

Mae'n rhaid dogfennu pob cam o unrhyw ymchwiliad i gŵyn oherwydd bod potensial i'r gŵyn symud ymlaen i gael ei chlywed yn y Llys.  Dylai'r achwynydd felly ddarparu'r wybodaeth ganlynol o leiaf:

  • Dyddiad ac amser y digwyddiad
  • Dull adnabod y cerbyd (rhif plât, disgrifiad o'r cerbyd ac ati)
  • Dogfennau adnabod y Gweithredwr Trwyddedig (os yn berthnasol)
  • Dogfennau adnabod y gyrrwr (rhif trwydded, disgrifiad personol)
  • Disgrifiad o'r digwyddiad

 Dylid eu hanfon at licensing@powys.gov.uk

Er ein bod yn hapus i dderbyn cwynion dros y ffôn, efallai y byddwn yn gofyn i'r achwynydd gadarnhau'r wybodaeth hon yn ysgrifenedig neu ddarparu datganiad tyst.