Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Creu camlesi i'w mwynhau gan bawb

Image of the Monmouthshire and Brecon Canal

24 Tachwedd 2022

Image of the Monmouthshire and Brecon Canal
Datblygu cysylltiadau ar hyd coridorau'r ddwy gamlas ym Mhowys yw ffocws y prosiect Camlesi, Cymunedau a Lles, a ph'un ai'n byw ym Mhowys neu'n ymwelydd, ry'n ni am glywed eich barn ar ein camlesi.

Tan 11 Ionawr 2023, byddwn yn casglu eich barn a'ch sylwadau er mwyn gallu llunio'r camau nesaf o gwmpas eich syniadau a'ch anghenion.  P'un ai hynny'n gwella rhyw agwedd neu beth sy'n eich rhwystro chi ar hyn o bryd rhag gwneud yn fawr o'r camlesi a'u broydd.

Gan weithio o fewn coridor o 5km naill ochr i Gamlas Maldwyn a Chamlas Sir Fynwy a Brycheiniog, nod y prosiect Camlesi, Cymunedau a Lles yw creu mwy o gyfle i'r cyhoedd eu mwynhau at ddibenion hamdden a theithio llesol a gwella lles.  Ond mae angen eich barn chi i wneud hyn.  Gall olygu gwella'r llwybrau halio, mynediad i'r gamlas a'r hawliau tramwy cyhoeddus, creu neu wella ardaloedd natur, darparu cyfleoedd i bobl gysylltu â natur ar hyd ein camlesi neu rywbeth mor syml â chreu mwy o lefydd eistedd neu fannau picnic i'w mwynhau gan bawb.

"Ry'n ni mor ffodus yma ym Mhowys i gael dwy gamlas brydferth o bwysigrwydd hanesyddol yn treiddio drwy'r sir," esboniodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.  "Nid yn unig eu bod mor bwysig o ran creu cynefinoedd llawn natur i bob math o fywyd gwyllt, ond maent yn le unigryw i'w mwynhau gan drigolion ac ymwelwyr.

"Trwy ymuno â phartneriaid allweddol eraill fel rhan o'r prosiect Camlesi, Cymunedau a Lles, rydym yn benderfynol o sicrhau bod y dyfrffyrdd syfrdanol hyn yn hwylus i bawb ac yn rhoi cyfleoedd i'w mwynhau gan bawb.

"Er mwyn gwneud hyn, mae'n bwysig clywed eich barn chi.  Beth sy'n gwneud y mannau hyn mor arbennig i chi?  A oes unrhyw beth yn eich atal rhag ymweld â'r camlesi?  Beth allwn ei wneud i annog mwy o bobl i ddefnyddio'r tir ar hyd coridor y gamlas?  Dyma'ch cyfle i ddweud eich dweud a rhannu eich barn gyda ni trwy'r arolwg ar-lein."

Bydd y prosiect hwn yn fyw tan fis Mai 2023 ac mae'n cael ei arwain gan Dîm Hamdden a Mynediad i  Gefn Gwlad Cyngor Sir Powys, yn gweithio ochr yn ochr â Glandŵr Cymru sef yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru.  Bydd y gwaith yn cyd-fynd â mentrau eraill sy'n cael eu cyflawni gan y sefydliadau partner ac a gefnogir trwy Raglen Datblygu Gwledig - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Ewch ar-lein i roi eich barn a'ch sylwadau: www.dweudeichdweudpowys.cymru/camlesi-cymunedau-a-llesiant

Llun: Pencelli, Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog