Creu camlesi i'w mwynhau gan bawb
24 Tachwedd 2022
Tan 11 Ionawr 2023, byddwn yn casglu eich barn a'ch sylwadau er mwyn gallu llunio'r camau nesaf o gwmpas eich syniadau a'ch anghenion. P'un ai hynny'n gwella rhyw agwedd neu beth sy'n eich rhwystro chi ar hyn o bryd rhag gwneud yn fawr o'r camlesi a'u broydd.
Gan weithio o fewn coridor o 5km naill ochr i Gamlas Maldwyn a Chamlas Sir Fynwy a Brycheiniog, nod y prosiect Camlesi, Cymunedau a Lles yw creu mwy o gyfle i'r cyhoedd eu mwynhau at ddibenion hamdden a theithio llesol a gwella lles. Ond mae angen eich barn chi i wneud hyn. Gall olygu gwella'r llwybrau halio, mynediad i'r gamlas a'r hawliau tramwy cyhoeddus, creu neu wella ardaloedd natur, darparu cyfleoedd i bobl gysylltu â natur ar hyd ein camlesi neu rywbeth mor syml â chreu mwy o lefydd eistedd neu fannau picnic i'w mwynhau gan bawb.
"Ry'n ni mor ffodus yma ym Mhowys i gael dwy gamlas brydferth o bwysigrwydd hanesyddol yn treiddio drwy'r sir," esboniodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Nid yn unig eu bod mor bwysig o ran creu cynefinoedd llawn natur i bob math o fywyd gwyllt, ond maent yn le unigryw i'w mwynhau gan drigolion ac ymwelwyr.
"Trwy ymuno â phartneriaid allweddol eraill fel rhan o'r prosiect Camlesi, Cymunedau a Lles, rydym yn benderfynol o sicrhau bod y dyfrffyrdd syfrdanol hyn yn hwylus i bawb ac yn rhoi cyfleoedd i'w mwynhau gan bawb.
"Er mwyn gwneud hyn, mae'n bwysig clywed eich barn chi. Beth sy'n gwneud y mannau hyn mor arbennig i chi? A oes unrhyw beth yn eich atal rhag ymweld â'r camlesi? Beth allwn ei wneud i annog mwy o bobl i ddefnyddio'r tir ar hyd coridor y gamlas? Dyma'ch cyfle i ddweud eich dweud a rhannu eich barn gyda ni trwy'r arolwg ar-lein."
Bydd y prosiect hwn yn fyw tan fis Mai 2023 ac mae'n cael ei arwain gan Dîm Hamdden a Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Sir Powys, yn gweithio ochr yn ochr â Glandŵr Cymru sef yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru. Bydd y gwaith yn cyd-fynd â mentrau eraill sy'n cael eu cyflawni gan y sefydliadau partner ac a gefnogir trwy Raglen Datblygu Gwledig - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Ewch ar-lein i roi eich barn a'ch sylwadau: www.dweudeichdweudpowys.cymru/camlesi-cymunedau-a-llesiant
Llun: Pencelli, Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog