Gwaith i ddechrau ar wella cysylltiadau cerdded a beicio rhwng Llanfair-ym-Muallt a Llanelwedd
24 Tachwedd 2022
Nodwyd a chytunwyd ar hynt y llwybr a rennir yn ystod ymgynghoriadau cyhoeddus blaenorol ar Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol y sir. Er mwyn iddo gael ei ariannu gan y Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru, bydd y cynllun hwn yn nodi'r cam cyntaf wrth sefydlu llwybr teithio llesol sy'n cysylltu Llanfair-ym-Muallt a Llanelwedd, a dechrau rhwydwaith teithio llesol lleol.
Disgwylir y bydd y cynllun wedi'i gwblhau mewn tuag wyth wythnos, a bydd yn cynnwys dwy groesfan ddiogel ar draws y briffordd, gydag un yn croesi'r A483 ar y gornel o Westy'r Llanelwedd Arms i fynedfa Jewson, a'r llall yn croesi'r A483 o Iard yr Orsaf i ochr y ffordd lle mae Maes y Sioe.
Bydd y llwybr trwy Iard yr Orsaf yn cael ei adnewyddu gydag arwyneb mwy hygyrch i gerddwyr a beicwyr, a bydd y llwybr rhwng y groesfan gyferbyn â maes y sioe ac ysgol gynradd Llanelwedd yn cael ei ledu.
"Yn dilyn ymgynghoriad a datblygu Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol y sir, mae'n wych gweld cynlluniau'r llwybrau mwy diogel hyn ar gyfer cymunedau yn cael eu rhoi ar waith," meddai'r Cynghorydd Jackie Carlton, Aelod Cabinet ar ran Powys Wyrddach.
"Nod Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yw gwneud Cymru'n genedl sy'n cerdded ac yn beicio. Bydd y llwybrau hyn yn ein hardaloedd lleol yn gwella diogelwch ffyrdd, i gerddwyr a beicwyr. Mae hyn yn arbennig o wir i deuluoedd sy'n cerdded i'r ysgol ac yn ôl ac mae'r llwybr yma rhwng Llanellwedd a Llanfair-ym-Muallt yn cynnig llwybr diogel uniongyrchol rhwng y ddwy gymuned ac ysgol gynradd Llanellwedd.
"Rydym yn gwerthfawrogi y gall unrhyw waith ffordd fod yn rhwystredig ar adegau, yn enwedig ar gefnffyrdd prysur, ond bydd creu'r llwybrau defnydd hygyrch hyn yn annog mwy ohonom yn y pen draw i wneud ein teithiau byrrach, fel ein cymudo i'r gwaith, i'r ysgol neu i'r siopau lleol, mewn dulliau mwy llesol, fel cerdded neu feicio, sy'n golygu llai o geir ar y ffordd.
"Wedi i'r llwybr gael ei gwblhau, bydd yn caniatáu i bobl ddewis cerdded neu feicio yn hyderus yn hytrach na defnyddio'r car, gan wella ein hiechyd a'n lles yn ogystal â lleihau ein hôl troed carbon a chyfrannu rhywfaint at ein helpu ni i fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd."