Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cynorthwywyr Cabinet

Cllr Jeremy Brignell-Thorp (left) and Cllr Adam Kennerley

29 Tachwedd 2022

Cllr Jeremy Brignell-Thorp (left) and Cllr Adam Kennerley
Mae Arweinydd Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi penodiad dau Gynorthwyydd Cabinet i gefnogi gwaith deiliaid portffolio mewn meysydd allweddol.

Bydd rolau penodol gan y cynorthwywyr newydd, a byddant yn mynychu ac yn cyfrannu at gyfarfodydd cabinet ond ni fydd pwerau pleidleisio ganddynt. Bydd y rolau yn cefnogi gwaith deiliaid portffolio ond heb bwerau dirprwyedig a ni fyddant yn gallu dirprwyo dros Aelodau Cabinet mewn pwyllgorau Craffu.

Mae Aelod Ffordun a Threfaldwyn, y Cynghorydd Jeremy Bignell-Thorp, sy'n aelod o'r Blaid Werdd, wedi cael ei enwi fel Cynorthwyydd Cabinet dros Argyfwng Hinsawdd a'r Cynghorydd Adam Kennerley, Aelod Gogledd y Drenewydd ac aelod o Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi cael ei enwi fel Cynorthwyydd Cabinet dros Argyfwng Bioamrywiaeth.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd James Gibson-Watt: "Bydd Cynorthwywyr Cabinet yn cefnogi gwaith deiliaid portffolio ac yn cyd-gadeirio Grŵp Llywio Hinsawdd a Natur trawsbleidiol. Bydd y Grŵp Llywio yn cytuno ar raglen waith a fydd yn adrodd yn ôl i'r cabinet bob chwarter.

"Ein gobaith yw y bydd y Grŵp Llywio yn sefydlu gweithgorau ad hoc ar bynciau penodol, sefydlu grwpiau rhanddeiliaid allanol ar hinsawdd a natur i gefnogi eu gwaith ac adrodd yn ôl yn flynyddol i'r cyngor llawn.

"Bydd y rolau newydd, sy'n ddi-dâl, yn dod â sgiliau ychwanegol sy'n berthnasol i'r argyfwng hinsawdd a natur, sef meysydd sy'n allweddol i bopeth a wnawn."