Cyn-filwyr Powys yn cael eu Hannog i Gymryd Rhan mewn Arolwg
![Image of British military camouflage uniform](/image/16616/Image-of-British-military-camouflage-uniform/standard.png?m=1669803490407)
29 Tachwedd 2022
![Image of British military camouflage uniform](/image/16616/Image-of-British-military-camouflage-uniform/gi-responsive__100.png?m=1669803490407)
Dywedodd y Cyng. Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys a Phencampwr y Lluoedd Arfog fod yr arolwg wedi cael ei lansio yn gynharach y mis hwn gyda'r nod o ddysgu mwy am gyn-filwyr, eu teuluoedd a'u hanghenion.
"Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Swyddfa Materion Cyn-filwyr yn gofyn am fynediad at wasanaethau ac amgylchiadau ers gadael y lluoedd arfog, eu ffyrdd o fyw, iechyd a lles.
"Mae gweinyddiaethau datganoledig Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi bod yn cymryd rhan yn llwyr yn yr arolwg a bydd y canlyniadau'n cael eu defnyddio i atgyfnerthu cynlluniau i ddiwallu anghenion cyn-filwyr yn y dyfodol," dywedodd.
Gellir dod o hyd i'r arolwg hwn ar:Arolwg Cyn-filwyr - Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)