Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Canolfan Addysg Cychwyn Newydd yn ehangu ei darpariaeth addysg

Image of opening of New Start Centre

30 Tachwedd 2022

Image of opening of New Start Centre
Cadarnhaodd y cyngor sir fod lleoliad addysg yn Aberhonddu wedi ehangu ei ddarpariaeth i helpu dysgwyr rhwng 6-11 oed oresgyn rhwystrau at ddysgu.

Mae'r Ganolfan Addysg Cychwyn Newydd sef yr Uned Atgyfeirio Disgyblion yn Aberhonddu, wedi bod yn cynnig darpariaeth addysg amgen i ddysgwyr oed uwchradd ers 2014.   Mae'n helpu gydag anghenion unigol pob dysgwyr trwy gynnig profiadau dysgu uwch ac anogaeth fel bod disgyblion yn gallu ffynnu a thyfu ym mhob agwedd o'u datblygiad.

Erbyn hyn mae'r ganolfan wedi ychwanegu darpariaeth Cyfnod Allweddol 2 i ddysgwyr rhwng 6 - 11 oed fel bod y cyngor yn gallu cynnig ymyriadau cynnar sydd wedi'u teilwra'n benodol yn ôl anghenion sy'n dod i'r amlwg.

Gyda thîm Cyfnod Allweddol 2 penodedig a phrofiadol, mae'r ganolfan yn gallu cynnig ymyriadau addysgol uniongyrchol a phriodol fel bod dysgwyr yn gallu goresgyn unrhyw rwystrau at ddysgu.

Bydd dysgwyr Cyfnod Allweddol 2 yn gallu mynychu'r ganolfan yn llawn amser am floc o 12 wythnos, ac ar ddiwedd hwnnw bydd yna gyfnod pontio.  Ar ôl y cyfnod pontio bydd dysgwyr yn dychwelyd i'w lleoliad addysg brif ffrwd gyda'r gefnogaeth iawn a chyfle i ailgodi o brofiadau'r gorffennol a ffynnu.

Cyfleuster arall yw ystafell hyfforddi benodol a fydd yn caniatau i staff y ganolfan ddarparu hyfforddiant pwrpasol ac unigryw i leoliadau addysg prif ffrwd a darparwyr gwasanaethau er mwyn uwchsgilio a rhannu'r strategaethau a'r dulliau diweddaraf i reoli, mynd i'r afael, cefnogi a diwygio heriau y mae dysgwyr heddiw nid yn unig yn eu harddangos ond hefyd yn eu profi.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mae'r Unedau Atgyfeirio Disgyblion yn hyrwyddo darpariaeth addysgol pwrpasol sy'n helpu gydag anghenion unigol y dysgwyr trwy gynnig profiadau dysgu uwch ac anogaeth fel bod disgyblion yn gallu ffynnu a thyfu ym mhob agwedd o'u datblygiad.

"Rwy wrth fy modd fod y Ganolfan Addysg Cychwyn Newydd wedi ehangu'r ddarpariaeth i gynnwys dysgwyr Cyfnod Allweddol 2. Dyma gyfnod cyffrous i'r ganolfan ac i Bowys a dyma un o'r ychydig iawn o unedau atgyfeirio disgyblion yng Nghymru sy'n gallu darparu ar gyfer dysgwyr rhwng 6 - 16 oed ar un safle.

"Bydd y ganolfan yn sicrhau bod pob dysgwr yn gadael gyda'r gallu a'r hyder i symud ymlaen i gam nesaf eu bywydau a dod yn aelodau gweithgar o'u cymuned."