Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Man cyswllt newydd i oedolion sydd am gael cymorth â cholli clyw

Deaf person on phone

01 Rhagfyr 2022

Deaf person on phone
Mae gwasanaeth tecstio newydd i oedolion sy'n fyddar neu'n colli clyw erbyn hyn yn fyw.

Bydd oedolion ym Mhowys sy'n fyddar neu'n colli clyw yn gallu cysylltu â'r cyngor am wybodaeth a chyngor ar ofal a chymorth i oedolion trwy decstio tîm CYMORTH ar 07883 307 622.

Bydd y tîm yn ateb gyda gwybodaeth ar bynciau megis asesiadau, technoleg gynorthwyol a'u cyfeirio at grwpiau gwirfoddol a chlinigau.

Dywedodd y Cynghorydd Sian Cox, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Gofalgar: "Mae mor bwysig fod ein cyd-ddinasyddion yn gallu cyfathrebu â ni, gofyn am wasanaethau, sôn am eu anghenion a chael eu clywed.  Mae CYMORTH yn ffordd i ddinasyddion hŷn, pobl ag anableddau a gofalwyr di-dâl ofyn am wybodaeth, arweiniad a help gyda gofal a chymorth, i'w hunain neu eraill, felly rhaid iddo fod yn hwylus i bawb.  Rwy mor falch y bydd pobl sy'n fyddar neu'n colli clyw yn gallu cysylltu â ni nawr drwy wasanaeth decstio."

Am unrhyw wybodaeth a chyngor arall ar ofal a chymorth i oedolion, megis gwasanaethau i bobl hŷn, anableddau dysgu neu gorfforol, lles a diogelu, cysylltwch â CYMORTH:

0345 602 7050 (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)

Tîm Dyletswydd Argyfwng 0345 0544 847 (tu allan i oriau arferol)

assist@powys.gov.uk

Mae'r gwasanaeth tecstio hwn i bobl sy'n fyddar neu'n colli clyw sydd angen gwybodaeth a chyngor ar ofal a chymorth i oedolion.