Mae Cyngor Sir Powys wedi sicrhau dros £17.7 miliwn o Gyllid Ffyniant Bro (LUF) gan Lywodraeth y DU i hyrwyddo twristiaeth hamdden yn y sir drwy fuddsoddiad mewn trafnidiaeth.
Nod y Gronfa Ffyniant Bro yw mynd i'r afael â gwahaniaethau rhanbarthol ledled y DU trwy fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith lleol hanfodol i gynyddu balchder mewn lle a dod â phobl yn agosach at gyfleoedd.
Bydd y buddsoddiad yn galluogi'r cyngor i ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid i ddatblygu a chyflawni prosiectau o fewn y sir, sy'n anelu at hybu twristiaeth hamdden a chyfrannu at dwf economaidd lleol. Mae'r rhain yn cynnwys:
Gosod wyneb newydd - bydd yn gwella mynediad at fannau twristiaeth poblogaidd ac yn cefnogi'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, gan hwyluso teithiau o well ansawdd i drigolion ac ymwelwyr.
Teithio llesol - bydd hyn yn darparu gwell mynediad rhwng trefi allweddol a'r cyrchfannau twristiaeth cyfagos, gan ei gwneud hi'n haws i ymwelwyr archwilio Powys gan ddefnyddio dulliau gweithredol a gwella hygyrchedd i leoliadau allweddol i drigolion. Yn benodol, bydd y cynlluniau'n cynnwys y rhai a gynlluniwyd ar gyfer Llyn Llandrindod, promenâd Aberhonddu, cam nesaf y llwybr o Landrindod i Hawy a rhan o'r llwybr o Grug Hywel i Langatwg.
Adnewyddu Hawliau Tramwy - bydd yn galluogi ac yn gwella hygyrchedd ymwelwyr i rwydwaith Hawliau Tramwy amrywiol a gwerthfawr Powys. Bydd hyn yn cynnwys gwaith i bont droed Pont y Milgi yn Ystradgynlais, pont droed y Fron yn Aberriw, gwerthuso opsiynau pont droed yr Ŵyl, Pont Ddu yn Aberriw, pont droed Llangadfan a'r Prosiect Cysylltiadau Beicio Traws-Cambria.
Mae twristiaeth wedi cael ei nodi ers amser maith fel cryfder allweddol i gefnogi twf economaidd a ffyniant ym Mhowys. Bydd y prosiectau lleol a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Brp gyda'i gilydd yn rhoi hwb i dwristiaeth hamdden ac yn cyfrannu at dwf economaidd lleol trwy:
wella hygyrchedd ac ansawdd teithiau i wasanaethau allweddol a lleoliadau twristiaeth;
ehangu'r gronfa lafur gyda gwell cysylltedd i ddarparu cyfleoedd i fusnesau a chyflogwyr lleol;
hyrwyddo teithio llesol i gyfrannu tuag at dargedau Sero Net Powys wrth leihau ei allyriadau carbon; a
datblygu gwell ymdeimlad o le a gwell atyniad, lle mae pobl yn falch o fyw ac ymweld â Phowys.
Yn 2021, sicrhaodd y cyngor ychydig o dan £21 miliwn o Gyllid Ffyniant Bro (LUF) gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi mewn dau brosiect mawr yn y sir: