gwelededd ddewislen symudol Toggle

Prosiect Adfer Camlas Trefaldwyn

UK Government Levelling Up logo
Levelling up logo CYM
Mae bron i £14miliwn o gyllid Codi'r Gwastad wedi ei sicrhau tuag at Raglen Adfer Camlas Trefaldwyn.

Bydd y cam hwn o'r gwaith - Prosiect Adfer Camlas Trefaldwyn - yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at adfer Camlas Trefaldwyn yn ehangach, a fydd, pan fydd wedi'i chwblhau'n llawn, yn darparu buddion economaidd, diwylliannol, lles a hamdden hirdymor i gymunedau lleol.

Bydd y prosiect, a gaiff ei gyflawni gan Glandwr Cymru a Chyngor Sir Powys, yn canolbwyntio ar:

  • Gwaith carthu / gwaith ar y glannau yn yr adran tua 4.4 milltir o hyd na ellir mo'i mordwyo, rhwng Llanymynech ac Arddlin - a fydd hefyd yn gweld darparu llwybr cynaliadwy ar gyfer beicio a cherdded ar hyd coridor y gamlas
  • Ailadeiladu Pont Walls a Phont Williams er mwyn galluogi mordwyo yn y dyfodol.
  • Creu tair gwarchodfa natur seiliedig ar ddŵr oddi ar lein ochr yn ochr ag Adran Gymreig y gamlas er mwyn diogelu statws naturiol y gamlas fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Gadwraeth Arbennig - i fodloni gofynion ecolegol am adfer
  • Atgyweiriadau a gwelliannau hanfodol ger Dyfrffordd Aberbechan.
  • Gwelliannau i adeilad y Lanfa a dau fwthyn ar ochr y gamlas yn Lanfa'r Trallwng - gan wella ei rôl fel canolfan gymunedol a diwylliannol y dref.

Mae disgwyl i'r prif waith adeiladu ddechrau mis Ionawr 2023 wrth i'r adran o Lanynymynech i Garreghofa gael ei charthu. Bydd y pecyn llawn o waith yn cael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2025.

I gael mwy o wybodaeth am y gwaith Adfer Camlesi ewch i wefan Glandwr.

Sut gallwch chi helpu

Rydym yn cynnal tri arolwg 'gwaelodlin' cyn cychwyn y gwaith. Byddem yn ddiolchgar am eich cyfranogiad (gallwch agor a chymryd rhan, fel y bo'n briodol)