Toglo gwelededd dewislen symudol

12 mis o oedi i greu ysgol gynradd newydd

Image of a primary school classroom

7 Rhagfyr 2022

Image of a primary school classroom
Mae cynlluniau cyffrous i sefydlu ysgol gynradd newydd sbon yn ne Powys yn wynebu 12 mis o oedi os bydd y Cabinet yn derbyn yr argymhelliad, dywedodd y cyngor sir.

Yn gynharach eleni, cafodd cynnig i uno Ysgol Fabanod Mount Street, Ysgol Iau Mount Street ac Ysgol Gynradd Cradoc a chreu ysgol gynradd newydd sbon,  ei gymeradwyo fel rhan o gynlluniau i Drawsnewid Addysg  yn nalgylch Aberhonddu.

Y dyddiad targed ar gyfer sefydlu'r ysgol gynradd newydd a fyddai'n gweithredu o'r tri safle presennol, oedd Medi 2023.

Ond ers cymeradwyo'r cynnig, cyflwynwyd cais i'r llysoedd am adolygiad barnwrol o benderfyniad y cyngor i uno'r dair ysgol.  Er i'r cais gael ei gyflwyno i'r llysoedd ym mis Ebrill, nid yw wedi cael ei drafod hyd yma.

Gan fod y broses gyfreithiol yn parhau, gofynnir i'r Cabinet ohirio gweithredu'r cynnig am 12 mis arall tan Medi 2024.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Tan i'r broses gyfreithiol ddod i ben, ni fydd yn bosibl i'r cyngor fwrw 'mlaen gyda rhai o'r agweddau angenrheidiol sydd angen eu gwneud i roi'r cynnig ar waith.

"Mae hyn yn golygu na fydd digon o amser i wneud popeth sydd ei angen i allu agor yr ysgol newydd fis Medi nesaf.

"Oherwydd y broses gyfreithiol, rwy'n argymell i'r Cabinet ein bod yn gohirio'r cynnig am 12 mis arall tan fis Medi 2024.  Bydd hyn yn golygu y gallwn wneud y trefniadau angenrheidiol i roi'r penderfyniad ar waith pan fydd y broses gyfreithiol ar ben.

"Os bydd y Cabinet yn cymeradwyo'r argymhelliad, bydd Ysgol Fabanod Mount Street, Ysgol Iau Mount Street ac Ysgol Gynradd Cradoc yn parhau i weithredu fel ysgolion ar wahân am 12 mis arall, gan agor yr ysgol newydd ar y tri safle ym mis Medi 2024.

"Rwy'n sylweddoli y bydd hyn yn achosi ansicrwydd ychwanegol i gymunedau'r dair ysgol ond rwy'n gobeithio eu bod yn deall bod yr angen i ohirio'r broses tu hwnt i reolaeth y cyngor."

Bydd y Cabinet yn ystyried yr argymhelliad ddydd Mawrth 13 Rhagfyr.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu