Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cabinet i ystyried cynlluniau cyfrwng Cymraeg ar gyfer Ysgol y Cribarth

Image of Ysgol y Cribarth

7 Rhagfyr 2022

Image of Ysgol y Cribarth
Bydd cynlluniau i gyflwyno ffrwd cyfrwng Cymraeg mewn ysgol gynradd yn ne Powys yn cael eu hystyried gan y Cabinet yr wythnos nesaf, yn ôl y cyngor sir.

Ar hyn o bryd mae Ysgol y Cribarth yn Aber-craf yn ysgol cyfrwng Saesneg sy'n darparu addysg i ddisgyblion 4 i 11 oed.

Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig symud yr ysgol ar hyd y continwwm iaith drwy sefydlu ffrwd cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol.

Os bydd yn mynd yn ei flaen, byddai'r newid arfaethedig yn gweld ffrwd cyfrwng Cymraeg yn cael ei chyflwyno yn Ysgol y Cribarth o fis Medi 2023, gan weithredu ochr yn ochr â ffrwd cyfrwng Saesneg yr ysgol.

Ddydd Mawrth, 13 Rhagfyr, gofynnir i'r Cabinet ddechrau ymgynghori'n ffurfiol ar y cynnig.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Ers mis Medi 2021, mae Ysgol y Cribarth wedi cynnal dosbarth Cyfnod Sylfaen cyfrwng Cymraeg ar sail peilot fel rhan o gynllun sydd wedi cael ei gefnogi gan y cyngor.

"Mae'r dosbarth wedi parhau i weithredu yn y flwyddyn academaidd gyfredol ac ar hyn o bryd mae 20 o ddisgyblion yn y dosbarth cyfrwng Cymraeg.

"Er mwyn sicrhau parhad y ddarpariaeth i ddisgyblion sy'n mynychu'r ddarpariaeth beilot ac i ddarparu eglurder i'r ysgol wrth symud ymlaen, mae'r cyngor yn archwilio opsiynau ar gyfer categori iaith yr ysgol yn y dyfodol gyda'r nod o sicrhau bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn parhau i gael ei chynnig yn yr ysgol.

"Byddai hyn yn sicrhau y byddai pob disgybl yn yr ardal yn cael y cyfle i ddewis y ddarpariaeth hon, a fyddai'n rhoi cyfle iddynt ddod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ac felly'n cyfrannu at ddyhead Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Byddai hefyd yn cefnogi nodau a dyheadau'r cyngor fel yr amlinellir yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA) ar gyfer 2022-32 a'r Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys.

"Byddaf yn argymell i'r Cabinet ein bod yn dechrau ymgynghori'n ffurfiol ar y cynnig i symud Ysgol y Cribarth ar hyd y continwwm iaith drwy sefydlu ffrwd cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol."

I ddarganfod rhagor am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, ewch i Taith at Ddwy Iaith.