Gwybodaeth gyffredinol
Mae Cyngor Sir Powys yn cydsefyll gyda phobl Wcráin. Os ydych chi'n ystyried cynnig eich cartref i ffoaduriaid o Wrcráin, diolch yn fawr.
Rydym yn awyddus i gefnogi trigolion sy'n dymuno gwirfoddoli fel noddwyr - o gynnal nosweithiau gwybodaeth ar gyfer pobl sydd â diddordeb, i'ch cefnogi chi pan fydd eich gwesteion yn cyrraedd.
Os am unrhyw reswm, mae angen ichi ddirwyn y trefniadau noddi i ben yn gynnar, dylai noddwyr ein hysbysu cyn gynted â phosibl.
- Cylchlythyr Cynllun Adleoli Trigolion Wrcáin ym Mhowys Rhagfyr 2022 (PDF) [147KB]
- Llinell Gymorth Cefnogi Wrcráin: 0800 148 8586
- Gallwch gysylltu â PAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys) a derbyn cymorth gan eu 'Cysylltwyr Cymunedol'. Gallwch gysylltu â'r Cysylltwyr Cymunedol drwy ffonio 01597 828649 (dydd Llun - Gwener 10am tan 4pm) neu drwy ebostio Community.Connectors@pavo.org.uk fydd yn gallu eich cyfeirio efallai at wasanaethau ychwanegol y trydydd sector, gwasanaethau cymunedol a gwirfoddol er mwyn cefnogi'r teulu, gan gynnwys cysylltiadau â gwasanaethau iechyd meddwl y trydydd sector.
- Os bydd y teulu'n dymuno cael cymorth i ddysgu Saesneg, gallwch gysylltu ag Addysg Oedolion Cymru neu unrhyw un o golegau Coleg Castell Nedd Port Talbot ym Mhowys a bydd ganddynt hawl i dderbyn dosbarthiadau ESOL am ddim. Cyflwynir y dosbarthiadau ar-lein, wyneb yn wyneb neu drwy ddysgu 'cyfun'. Hefyd dylai'r Canolfan Gwaith lleol allu helpu gyda darpariaeth ESOL.
- E-bost Cyngor Sir Powys ukraine.enquiries@powys.gov.uk