gwelededd ddewislen symudol Toggle

Gwybodaeth ar gyfer Noddwyr / Teulu Lletya

Gallwch helpu rhywun sy'n ffoi Wrcráin trwy noddi a chynnig llety iddynt yn eich cartref, neu drwy gynnig llety  hunangynhwysol: Sut y gallwch chi helpu pobl Wcráin 

Yng Nghymru gall noddwyr ffonio'r llinell gymorth am ddim ar 0808 175 1508 i gael cyngor

  • Ar gyfer cymorth gyda budd-daliadau, os oes angen cymorth, gallwch chi/eich gwesteion dderbyn cymorth trwy CAB Powys, a gallwch gysylltu â'u gwasanaeth Help i Hawlio drwy ffonio 0800 024 1220.  Bydd pobl sy'n ffonio'n siarad gydag ymgynghorydd a hyfforddwyd i helpu pobl i ddechrau hawlio Credyd Cynhwysol. Gall yr ymgynghorydd drefnu galwad cynadledda gyda gwasanaethau cyfieithu hefyd.

 

Llywodraeth y DU

1.       Ukraine Family Visa Scheme: Apply for a Ukraine Family Scheme visa - GOV.UK (www.gov.uk)

2.       Homes for Ukraine Scheme: Homes for Ukraine: record your interest - GOV.UK (www.gov.uk)

Os ydych chi wedi cofrestru ar Gynllun Cartrefi Wrcráin Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth y DU yn delio gyda'ch cynnig. Bydd Cyngor Sir Powys yn derbyn gwybodaeth ar yr holl noddwyr ar ôl i Lywodraeth y DU brosesu'r holl gynigion. Bydd Cyngor Sir Powys yn cysylltu â chi ar ôl inni dderbyn hyn.

Llywodraeth Cymru

Canllawiau'r Llywodraeth

Mae eich awdurdod lleol yn gyfrifol am:

  • Gofrestru plant mewn ysgolion
  • Darparu cyngor ar wasanaethau cymorth i'r teulu, megis cymorth gyda chostau gofal plant, dosbarthiadau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)
  • Gweithio gyda byrddau iechyd lleol i atgyfeirio at gyngor a llwybrau atgyfeirio at wasanaethau iechyd cyhoeddus arbenigol fel sy'n briodol, er enghraifft ar gyfer brechiadau neu sgrinio TB
  • Dylid darparu cyngor ar wasanaethau cymorth eraill megis sefydlogi cychwynnol, cwnsela a chymorth ym maes iechyd meddwl, gofal cymdeithasol i oedolion, a gwasanaethau plant fel bo angen
  • Trefnu apwyntiadau gyda'r Canolfan Byd Gwaith ar gyfer asesiadau o ran budd-daliadau, gan gynnwys taliadau argyfwng tra bo budd-daliadau'n cael eu trefnu

Ymweliadau cartref a gwiriadau'r GDG

Mae Llywodraeth Cymru yn pennu bod angen cynnal ymweliad â'ch cartref i sicrhau fod eich llety'n addas. Bydd Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor yn cynnal ymweliad cychwynnol â'ch cartref ar adeg sy'n gyfleus ichi. Os nad ydych yn berchen-feddiannydd, h.y. rydych chi'n rhentu eich cartref, dylech hysbysu'r swyddog pryd i gysylltu â chi.

Bydd  angen i noddwyr ac aelodau'r aelwyd sydd yn 16 oed a hŷn gael gwiriad newydd gan y GDG.

Bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu pa wiriad(au) gan y GDG fydd eu hangen (manwl neu sylfaenol) yn unol â chanllawiau'r llywodraeth.

Gwybodaeth Iechyd

  • Bydd y teulu'n gallu cofrestru gyda'r Meddyg Teulu lleol.  Dylai Meddygon Teulu fod wedi cael gwybod am deuluoedd sy'n cyrraedd o Wcráin, a dylen nhw drefnu cynnal, neu drefnu, gwiriad sgrinio 'manwl' yn ogystal â darparu gwybodaeth am unrhyw frechiadau angenrheidiol, gan gynnwys Covid 19. 
  • Mewn perthynas ag iechyd meddwl, mae'n debygol y bydd yr unigolion sy'n cyrraedd yn dioddef o straen, ac efallai y bydd angen cymorth arnynt. Os oes gennych bryderon mewn perthynas â hyn, dylech gysylltu â'ch Meddyg Teulu yn y lle cyntaf.
  • Sane Ukraine - Cyfarfod ar-lein am ddim ar thema trawma a gwydnwch a gynhelir bob dydd gyda Chymorth Cymheiriaid mewn Iechyd Meddwl ar gyfer dinasyddion Wrcráin er mwyn rhoi cyfle iddynt sgwrsio gyda phobl sy'n cael yr un profiadau. Mae'r sesiynau'n para am 45 munud. 

Ni chodir ffi ar noddwyr ar gyfer y gwiriadau hyn.  Bydd yr awdurdod lleol ar gael i roi cefnogaeth ichi gyda gwiriadau'r GDG a byddant ar gael hefyd i drafod unrhyw bryderon neu ymholiadau sydd gennych.

Taliad

Bydd y cyngor yn talu £200 y pen i gychwyn fel arian parod ar gyfer newydd-ddyfodiaid, yn ogystal â thaliad misol o £500 i ddweud "diolch" i'r noddwr. Mae cyfyngiad ar y taliad misol o £500 fesul cyfeiriad preswyl, er gwaethaf nifer y bobl sy'n cael eu lletya yno.

Dolenni Defnyddiol