Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ysgol Uwchradd Aberhonddu

Image of Brecon High School's new building

14 Rhagfyr 2022

Image of Brecon High School's new building
Cafwyd cadarnhad gan y cyngor sir y bydd tîm o uwch swyddogion addysg yn gweithio gydag ysgol uwchradd ym Mhowys yn dilyn arolwg siomedig gan Estyn.

Bydd swyddogion o Gyngor Sir Powys, gan gynnwys swyddogion gwella ysgolion, yn cefnogi Ysgol Uwchradd Aberhonddu ar ôl iddi gael ei gosod o dan 'fesurau arbennig' gan Estyn yn dilyn arolwg diweddar. 

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Dros Bowys Sy'n Dysgu: "Heddiw, rwy'n rhannu'r siom a rennir gan bawb sy'n gysylltiedig â'r ysgol.

"Mae uwch dîm arwain yr ysgol yn gwybod pa gamau sydd angen eu cymryd i sicrhau'r gwelliannau angenrheidiol ac maen nhw eisoes wedi dechrau ar y gwaith hwnnw.

"Mae argymhellion Estyn yn glir o ran beth sydd angen i'r ysgol ganolbwyntio arno ac mae'r cyngor a'r ysgol eisoes yn gweithio'n agos at ei gilydd i ddynodi'r pecyn cymorth ychwanegol gofynnol i fynd i'r afael â'r materion a amlygwyd gan yr ymweliad hwn."

Bydd yr adroddiad a'r argymhellion, sydd wedi cael eu derbyn gan gorff llywodraethu'r ysgol a'r uwch dîm arwain, yn ffurfio sail cynllun gweithredu manwl i fynd i'r afael â meysydd allweddol sydd angen eu gwella.

Bydd swyddogion yn gweithio gyda'r ysgol a'i chorff llywodraethu i ddynodi rhesymau dros ganlyniad yr arolwg gan gydweithio i ddarparu gwelliant sylweddol a buan. Caiff staff, disgyblion a rhieni gefnogaeth gyflawn ar hyd y daith o wella'r ysgol.

Dywedodd Rhiannon Evans, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Uwchradd Aberhonddu: "Yn amlwg, rydym ni Lywodraethwyr yn siomedig iawn fod Ysgol Uwchradd Aberhonddu wedi cael ei gwneud yn destun mesurau arbennig.

"Rydym yn gwerthfawrogi fod yna waith ar ôl i'w wneud i wella safonau yn yr ysgol, ond cafwyd sawl peth cadarnhaol yn yr adroddiad sy'n dangos ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad cywir.

"Rydym yn gwbl hyderus yn ein staff a'u gallu i barhau â'r cynnydd cadarnhaol y bu'r ysgol yn ei gyflawni ers i gyfyngiadau Covid ddod o ben. 

"Hoffem dawelu meddyliau'r rhieni ein bod ni'n gwbl ymroddedig i wella safonau a sicrhau y bydd disgyblion yn derbyn yr addysg orau bosibl yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu."

Gallwch weld adroddiad yr arolwg yma www.estyn.llyw.cymru/