Toglo gwelededd dewislen symudol

Adolygiad Archwilio Cymru

Image of Audit Wales logo

19 Rhagfyr 2022

Image of Audit Wales logo
Cafwyd addewid gan Gyngor Sir Powys y bydd canfyddiadau adolygiad gan Archwilio Cymru yn cael eu defnyddio i gryfhau trefniadau diogelu corfforaethol er mwyn sicrhau fod preswylwyr yn cael eu diogelu rhag niwed a cham-drin.

Mae'r adroddiad, a gyhoeddir heddiw (19 Rhagfyr), yn dilyn adolygiad o'r cyngor rhwng Mehefin a Medi eleni ac mae'n cynnwys argymhellion ar gyfer gwelliant mewn meysydd allweddol.

Gwnaeth yr adolygiad diweddaraf ganfod fod y cyngor wedi bodloni, neu'n rhannol fodloni, rai o'r argymhellion a ddynodwyd gan Archwilio Cymru mewn adroddiadau a gyhoeddwyd ganddynt yn 2014 a 2015.

Fodd bynnag, gwnaeth Archwilio Cymru ganfod fod diffyg rheolaeth briodol yn parhau mewn perthynas â threfniadau diogelu corfforaethol y cyngor, sy'n gwneud y cyngor a'i breswylwyr yn agored i risg.

Mae Archwilio Cymru wedi dynodi argymhellion pellach i helpu'r cyngor i ganolbwyntio a chryfhau ei drefniadau diogelu a hynny ar frys.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Diogel a Phrif Arweinydd dros Ddiogelu: "Rydym yn derbyn canfyddiadau'r adolygiad hwn a hoffwn ddiolch i'r archwilwyr am eu gwaith.

"Cyn i ni dderbyn canfyddiadau'r adolygiad, roedd y cyngor eisoes wedi dynodi nifer o weithredoedd i wella ein trefniadau diogelu corfforaethol. Yn ystod yr haf, gwnaethom osod cynllun gweithredu mewn lle i lywio gwelliant ac rydym wedi dechrau gweithredu'r cynllun hwnnw, gan gynnwys gwella Polisi Diogelu Corfforaethol.

"Rydym wedi adolygu a diweddaru ein cynllun gweithredu i sicrhau ei fod yn mynd i'r afael yn llwyr â'r argymhellion a amlinellwyd gan Archwilio Cymru i warantu ein bod ar y trywydd iawn i gryfhau ein trefniadau diogelu corfforaethol.

"Rwyf am dawelu meddwl preswylwyr nad oes gan Archwilio Cymru unrhyw bryderon ynghylch trefniadau diogelu sydd mewn lle yn ein lleoliadau addysg neu ofal cymdeithasol.

"Mae'r argymhellion yn canolbwyntio ar y cyngor yn ei gyfanrwydd. Mae cyfrifoldeb ar bob aelod o staff a phob cynghorydd i sicrhau fod y bobl y maen nhw'n delio â nhw drwy eu gwaith yn ddiogel rhag niwed a cham-drin, a'u bod yn gwybod sut i ddynodi pobl a allai fod mewn risg ac i hysbysu'r bobl gywir cyn gynted ag sy'n bosibl.

"Rydym yn ymroddedig i fodloni'r holl argymhellion a diogelu'r gwelliannau i sicrhau fod y trefniadau sydd gennym mewn lle yn cadw ein preswylwyr yn ddiogel rhag niwed a cham-drin."

Gallwch ddod o hyd i adroddiad Archwilio Cymru yma https://www.audit.wales/