Toglo gwelededd dewislen symudol

Cofiwch ailgylchu dros Nadolig

Image of some empty glass bottles at Christmas time

19 Rhagfyr 2022

Image of some empty glass bottles at Christmas time
Mae trigolion Powys yn cael eu hannog i ailgylchu gymaint â phosibl dros yr Ŵyl.

Gyda'r Nadolig ar ein gwarthaf, mae Tîm Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Sir Powys yn atgoffa pobl i ailgylchu gymaint â phosibl dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Mae'r Nadolig yn adeg prysur i bawb, ond mae'n bwysig cofio ailgylchu gymaint â phosibl dros yr Ŵyl.

"Mae pawb yn creu llawer mwy o sbwriel na'r arfer dros y Nadolig, ond mae'n bosibl ailgylchu'r rhan fwyaf ohono - o ffoil, bwyd, jariau a photeli gwydr i goed Nadolig go iawn, cardiau Nadolig plaen, papur lapio plaen, batris, poteli plastig, cartonau Tetra Pak a llawer mwy.

"Bydd ein criwiau'n gweithio dros y gwyliau gyda'r casgliadau wythnosol arferol yn digwydd ddiwrnod yn hwyrach na'r arfer dros wythnos y Nadolig ac yna fel arfer dros y Flwyddyn Newydd, felly cofiwch roi'r blychau allan i'w casglu.

"Eleni rydym yn annog pawb i wneud yn fawr o'r gwasanaeth casglu wythnosol ac i gofio na allwn dderbyn gwydr mwyach yn y safleoedd ailgylchu cymunedol.  Peidiwch â gadael poteli na jariau wrth y safleoedd hynny lle mae'r banciau ailgylchu gwydr wedi cael eu symud.  Nid yn unig y mae'n edrych yn hyll ond mae hefyd yn beryglus i eraill sy'n defnyddio'r safle.

"Dylech ailgylchu eich gwydr adref yn eich blwch ailgylchu gwyrdd."

Os yw'n dipyn o ymdrech i fasnachwyr megis tafarnau, caffis a bwytai i ymdopi gyda'r holl wydr dros y Nadolig, rhowch alwad i'r tîm ailgylchu masnachol i drafod eich opsiynau.

Gwefan: Busnesau
E-bost: commercial.recycling@powys.gov.uk    
Ffôn: 01597 810829