Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Agor Ysgol Gymraeg y Trallwng i gael ei ohirio

Image of Ysgol Gymraeg Y Trallwng from the air

19 Rhagfyr 2022

Image of Ysgol Gymraeg Y Trallwng from the air
Bydd ysgol gynradd Gymraeg newydd sy'n cael ei hadeiladu yng ngogledd Powys nawr yn agor ar ôl gwyliau'r Pasg, yn ôl y cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys yn adeiladu ysgol newydd 150 o leoedd ar gyfer Ysgol Gymraeg y Trallwng yn y Trallwng. Bydd yr adeilad newydd yn cynnwys y blynyddoedd cynnar a chyfleusterau cymunedol.

Mae'r cynllun arloesol ar gyfer yr ysgol newydd yn cyfuno'r hen a'r newydd a fydd yn darparu cyfleusterau arbennig i ddisgyblion Ysgol Gymraeg y Trallwng a chymuned y Trallwng gyda chyfleusterau arbennig ar yr un pryd â chynnal presenoldeb adeilad eiconig Ysgol Maesydre.

Bydd yr hen adeilad rhestredig Gradd II yn cael ei adnewyddu er mwyn darparu ar gyfer y blynyddoedd cynnar a chyfleusterau cymunedol a bydd estyniad newydd yn cael ei adeiladu i gynnwys neuadd ysgol a chanolfannau ystafell ddosbarth newydd. Yr adeilad hefyd fydd y prosiect hybrid Passivhaus cyntaf yn y DU.

Dechreuodd y gwaith adeiladu fis Tachwedd diwethaf ac yn wreiddiol roedd i fod i bara am 12 mis.

Fodd bynnag, mae'r gwaith adeiladu wedi arafu oherwydd materion sy'n ymwneud â'r gadwyn gyflenwi sydd wedi gohirio'r prosiect.

Yn dilyn trafodaethau gydag uwch arweinwyr Ysgol Gymraeg y Trallwng, cytunwyd bydd y dysgwyr a'r staff yn symud i'r adeilad newydd ar ôl gwyliau'r Pasg.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Yn naturiol rydym yn siomedig bod oedi wedi bod yn y broses o adeiladu'r ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg y Trallwng oherwydd materion yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi, sydd y tu hwnt i reolaeth y cyngor.

"Fodd bynnag, mae hyn wedi golygu bod yn rhaid diwygio'r rhaglen adeiladu ac mae angen mis neu ddau yn fwy i orffen y gwaith adeiladu.

"Unwaith bydd yr adeilad wedi'i gwblhau a'i drosglwyddo i'r cyngor bydd cyfnod pontio i sicrhau bod staff yr ysgol yn gyfarwydd â'u hysgol newydd a bod ganddynt yr amser angenrheidiol i'w pharatoi ar gyfer eu dysgwyr yn barod ar gyfer diwrnod agor yr ysgol."

Dywedodd Angharad Davies, Pennaeth Ysgol Gymraeg y Trallwng: "Fel ysgol, rydym yn rhoi ein plant a'n staff yn gyntaf a phenderfynwyd oedi symud i'r adeilad newydd am ychydig er mwyn sicrhau bod gennym broses pontio llyfn. Felly, byddwn yn symud i'n hadeilad newydd ar ôl gwyliau'r Pasg.

"Er ein bod yn gyffrous am adeilad ein hysgol newydd, nid yw adeilad newydd yn golygu addysg ragorol. Mae addysg ragorol yn gynnyrch y bobl sydd yn rhan ohoni ac o'i chwmpas.  Rydym wedi profi hyn yn Ysgol Gymraeg y Trallwng nid yn unig yr wythnos ddiwethaf ond ers i ni agor yn 2017.

"Mae addysg Gymraeg yn y Trallwng yn ffynnu a bydd yr adeilad newydd yn ein helpu i adeiladu ar yr addysg ragorol rydym eisoes yn ei darparu."