Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Canolfan Addysg Cychwyn Newydd yn cael cydnabyddiaeth am ei hymroddiad i ddarparu addysg ddiogel o bell

Image of a young person at a laptop

21 Rhagfyr 2022

Image of a young person using a laptop
Mae lleoliad addysg a leolir yn Aberhonddu wedi arddangos ei ymroddiad i ddarparu addysg o bell o ansawdd uchel, gan gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein a chefnogi llesiant disgyblion, a hynny am gwblhau rhaglen hyfforddi gynhwysfawr ar gyfer addysg o bell.

Dyfarnwyd Achrediad Addysg o Bell Diogel i Ganolfan Addysg Cychwyn Newydd, sef Uned Cyfeirio Disgyblion Cyngor Sir Powys yn Aberhonddu, gan Ddiogelwch Ar-lein Cenedlaethol. Dyfarnwyd yr achrediad am ei hymagwedd lwyddiannus tuag at ddiogelu plant a chefnogi llesiant disgyblion wrth addysgu a dysgu o bell. 

Mae Diogelwch Ar-lein Cenedlaethol yn ddarparwr hyfforddiant digidol aml-wobrwyedig gydag adnoddau helaeth ar ddiogelwch ar-lein.

Mae ei gyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac adnoddau addysgiadol yn cefnogi ysgolion DU i addysgu am ddiogelwch ar-lein i'r gymuned ysgol i gyd - gan gynnwys yr holl uwch arweinwyr, athrawon, staff yr ysgol a rhieni - am sut i wneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i blant.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Mae diogelu disgyblion a chefnogi eu llesiant yn ystod cyfnodau o addysgu a dysgu o bell yn hanfodol i ddatblygiad parhaus disgyblion ac felly rwyf wrth fy modd fod Canolfan Addysg Cychwyn Newydd wedi derbyn y wobr hon.

"Mae'r amgylchedd ar-lein yn cynnig cyfoeth o wybodaeth bosibl y gall dysgwyr fanteisio arni. Fodd bynnag, mae angen iddynt wybod sut i fordwyo hyn yn ddiogel. Mae'r wobr hon yn enghreifftio'r ymagwedd o bartneriaeth sy'n sicrhau fod y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i'n dysgwyr."

Dywedodd James Southworth, cyd-sylfaenydd Diogelwch Ar-lein Cenedlaethol: "Wrth gwblhau ein rhaglen hyfforddi, mae Canolfan Addysg Cychwyn Newydd wedi dangos ei hymroddiad cryf wrth weithredu'r ymagwedd fwyaf effeithiol i ddarparu addysg o bell.

"Gall fod yn gynyddol anodd i ysgolion fod yn ymwybodol o'r diweddaraf o ran disgwyliadau o gwmpas addysg o bell i sicrhau fod y plant a'r staff yn dilyn y protocolau diogelu angenrheidiol a gwybod sut i adnabod unrhyw broblemau llesiant posibl. Rydym wedi arfogi ysgolion â'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddeall eu cyfrifoldebau a sut i ymateb yn y ffordd orau posibl i unrhyw broblemau."